Skip to content
Ni fydd archebion yn cael eu postio tan 01/10/2024. Orders will not be posted until 01/10/2024.
Ni fydd archebion yn cael eu postio tan 01/10/2024. Orders will not be posted until 01/10/2024.

Y Morfarch Arian - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2024

Original price £10.00 - Original price £10.00
Original price
£10.00
£10.00 - £10.00
Current price £10.00

Enillydd y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024. Od-beth. Od-ferch. Od-bod. Mae Heli Jôs yn wahanol. Mae hi'n gwneud y pethau bach od ac ailadroddus yma, er mwyn amddiffyn ei hanwyliaid a'u hatal rhag i bethau drwg ddigwydd iddyn nhw.

 

Bywgraffiad Awdur:

Daw Eurgain o Benisarwaun yn Eryri ond mae'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gŵr a'u dau o blant a chi bach annwyl. Mae hi wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Môn a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.

 

Cyhoeddodd nifer o lyfrau i blant a straeon byrion ar gyfer oedolion. Mae'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.

 

Gwybodaeth Bellach:

 

HeliJôsHoncoBost. HeliJôsHoncoBost. HeliJôsHoncoBost.

 

Bai'r Bwgan-Beth-Os ydi hynny, y Llais yn ei phen sy'n ceisio'i rheoli hi.

Pan aiff pethau ar chwâl ym mywyd Heli a'i theulu, caiff ei gwthio i'r eithaf ac mae'r problemau cynyddol yn codi fel ton enfawr drosti.

Ond yna yng nghanol y storm mae'r morfarch arian - y manaia - yn nofio i'w byd gan gynnig llwybr amgen drwy'r düwch.

SKU