Skip to content
*** Ni fydd archebion yn cael eu prosesu na'u postio tan 25/01/2026. Peidiwch ac archebu os ydych angen nwyddau cyn 29/01/2026. *** Orders will not be processed/posted until 25/01/2026. Please do not order if you require goods before 29/01/2026. ***
*** Ni fydd archebion yn cael eu prosesu na'u postio tan 25/01/2026. Peidiwch ac archebu os ydych angen nwyddau cyn 29/01/2026. *** Orders will not be processed/posted until 25/01/2026. Please do not order if you require goods before 29/01/2026. ***

Cludo a Dychwelyd

 Polisi Dychwelyd ac Ad-dalu Siop y Pentan

Hyderwn y byddwchyn mor hapus â’ch cynnyrch i’r un graddau â ni. Os na, medrwch ddychwelyd yr eitemau atom ni o fewn 14 diwrnod gwaith am ad-daliad llawn.

Rhaid i bob eitem fod heb ei ddefnyddio yn ei bacediad gwreiddiol. Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu a thalu am ddychwelyd cynnyrch, ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cael tystiolaeth o bostio gan na fedrwn ysgwyddo cyfrifoldeb am ddychweliadau coll neu rai a ddifrodir yn ystod cludiant. Gallwch hefyd ddychwelyd nwyddau i'n siop yng Nghaerfyrddin.

Os yw eich nwyddau wedi eu difrodi, yn wallus neu’n anghywir, gadewch i ni wybod o fewn 48 awr o’u derbyn naill ai ar y ffôn neu drwy ebost ac fe wnawn ein gorau i’w hamnewid.

Ni ad-delir costau postio a phecynnu ag eithrio os yw’r nwyddau’n wallus neu’n anghywir.

Yn sgil natur nwyddau wedi’u personoleiddio, ni allwn gynnig ad-daliad arnynt. Os yw’r personoleiddiad yn anghywir oherwydd camgymeriad gennym ni, neu os yw’r nwyddau yn wallus, fe wnawn gynnig ad-daliad llawn neu amnewid yr eitem heb unrhyw gost ychwanegol.

Am resymau hylendid ni fedrwn gyfnewid na rhoi ad-daliad am glustdlysau tyllog.

Cludiant

Nid ydym yn elwa o ffioedd cludo - mae cyfraddau cludo yn cael eu cyfrif gan ddefnyddio'r Post Brenhinol.