Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod)

10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod)

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nod y llyfr hynod weledol a ffeithiol hwn yw annog plant i ddarganfod a dysgu mwy am ddeg stori o hanes Cymru. Cynhwysir hanesion am Gwenllian Ferch Gruffudd; Owain Glyndŵr; Barti Ddu; Dic Penderyn a Therfysgoedd Merthyr; Alfred Russel Wallace; Streic y Penrhyn; Terfysgoedd Hil yr 20fed ganrif; Eileen Beasley; Trychineb Aberfan a Datganoli. Darluniwyd gan Telor Gwyn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A highly visual and factual book with the aim of encouraging children to discover and learn more about 10 stories from Welsh history. Comprising stories about Gwenllian Ferch Gruffudd; Owain Glyndŵr; Black Bart; Dic Penderyn/Merthyr Riots; Alfred Russel Wallace; the Penrhyn Strike; Race Riots of the 20th C; Eileen Beasley; the Aberfan tragedy and Devolution.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781849675413
Gwales Code
gwales.com.9781849675413
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod)
Awdur / Author
Jones, Ifan Morgan
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-03-09
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Darlunydd / Illustrator
Gwyn, Telor
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
48 pages
Size
235 × 259 mm; depth 50 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Hanes ac Enwogion (yn Gymraeg) | EN: History and Famous People (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C020056

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cyfrol rodd, glawr caled, hynod drawiadol ei diwyg yw hon, sy’n gwneud yn union beth y mae’r teitl yn ei awgrymu – adrodd 10 o straeon o’n hanes ni fel Cymry, o’r canol oesoedd hyd at y cyfnod modern. Mae'r straeon wedi’u hysgrifennu gan yr awdur a’r sylwebydd gwleidyddol talentog Ifan Morgan Jones, a’u darlunio gan yr arlunydd cyfoes Telor Gwyn, y naill yn enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 a’r llall wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og am ei lyfr cyntaf hefyd. Wedi dweud hynny, mae’r gyfrol yn gymaint mwy na llyfr stori. Yn ogystal â chyflwyno hanesion Gwenllian, Owain Glyndŵr, Barti Ddu, Dic Penderyn, Alfred Russel Wallace, Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, terfysgoedd hil y ganrif ddiwethaf, Eileen Beasley, Aber-fan a Datganoli, down i sylweddoli’n fuan mai cyflwyniadau go gignoeth a gonest o’r hanesion hynny a geir yma. Does dim cuddio pechodau na rhamantu. Mae’r awdur yn ei dweud hi fel y mae hi, gan ddehongli’r hanes yn ei ddull Cymreig arbennig ei hun, drwy bwysleisio, er enghraifft, mor ddidrugaredd a chreulon oedd rhai o weithredoedd y môr-leidr Barti Ddu, ac nad oeddem ni fel Cymry'n ddiniwed yn ein hymwneud â materion megis caethwasiaeth a hiliaeth chwaith. Efallai fod nifer o’r hanesion a gyflwynir yn y gyfrol yn gyfarwydd i ni i ryw raddau, ond mae’r wedd a roddir arnynt gan yr awdur yn cynnig rhyw ffresni a gonestrwydd cyfoes a chyfoethog. Aeth ati’n fwriadol iawn i ddewis a dethol ei ddeunydd, gyda’r bwriad o wneud iawn am rai anghysonderau yn y gorffennol, megis anghofio am gyfraniad unigolion fel Alfred Russel Wallace – gwyddonydd o Gymru a fu’n gymaint o gefn i Charles Darwin yn ei gyfnod. Yn ychwanegol at bob hanesyn cawn ddwy dudalen bob tro sy’n cyflwyno ffeithiau ategol am ddigwyddiadau a chymeriadau allweddol eraill yn ein hanes ni fel Cymry, o’r Mabinogi i dywysogion Cymru, môr-ladrata a chaethwasiaeth, Cymru ddiwydiannol, gwyddonwyr a dyfeiswyr o Gymru, yn ogystal â’r brwydrau a’r ffigyrau gwleidyddol a fu’n rhan o’n hanes mwy diweddar hefyd. Mae yma fapiau defnyddiol –‘Cymru Drwy’r Oesoedd’ – sy’n dangos y modd y mae ffiniau Cymru wedi newid ers y 6ed ganrif, ac amserlin trawiadol sy’n ein harwain o tua 2,500 CC hyd at heddiw, heb sôn am restr o eiriau defnyddiol sy’n ddiweddglo i’r gyfrol. Ac mae’r cyfan wedi’i ddarlunio mewn arddull gartwnaidd fodern, foel ond cwbl addas, gan Telor Gwyn. Dyma gyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw silff lyfrau, beth bynnag eich oed, a chyfrol bwysicach fyth wrth i fwy o bwyslais gael ei roi ar ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yn sgil y cwricwlwm newyddd. Ac os ydyw eich silffoedd chi eisoes yn llawn, cofiwch fod y gyfrol hefyd ar gael fel e-lyfr.

View full details