Cyngor Llyfrau Cymru
301
301
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel sydd yn olrhain hanes mab gweinidog wrth iddo wneud y dewis annisgwyl o fynd i ymladd i Ryfel y Falklands.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A novel which tells the story of a minister's son who makes the unexpected decision to fight in the Falkland's War.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848513921
- Gwales Code
- gwales.com.9781848513921
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- 301
- Awdur / Author
- Iwan, Llion
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-03-29
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 168 pages
- Size
- 128 × 196 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma nofel sydd, yn nhraddodiad ffilmiau fel Platoon a Full Metal Jacket , yn portreadu rhyfel mewn ffordd gwbwl gignoeth. Ond tra bod y rheiny yn ffilmiau am Ryfel Fietnam a wnaed yn y 1980au, nofel am Ryfel y Falklands wedi’i gosod yn y 1980au yw 301 , a Streic y Glowyr yn gefnlen Gymreig iddi. Math o brolog ydi’r bennod gyntaf sy’n ein cyflwyno i’r prif gymeriad ac yn gosod y naws ar gyfer gweddill y gyfrol. O’i blentyndod anhapus dan gysgod gweinidog anghristnogol o dad i’r trawma y mae’n ei ddioddef yn sgil erchyllterau’r rhyfel, tydi’r awdur byth yn ein harbed rhag y digalondid a’r trais ym mywyd Stephen Andrews. Er mor llwm y testun, mae hon yn nofel rwydd iawn ei darllen sydd wedi’i hysgrifennu’n raenus a’i saernïo’n gelfydd. Diau y byddai’r gwangalon yn ei chael yn anodd stumogi rhai o’r disgrifiadau arswydus trawiadol, fel yr un o’r milwr sy’n ceisio atal ei ymasgaroedd rhag llifo allan o’i stumog: ‘Edrychent fel trwynau pinc cŵn bach yn gwthio drwy ei fysedd.’ A’r modd y mae breuddwyd am arogl blasus cinio dydd Sul yn troi’n hunllef am gyrff rhost milwyr a losgwyd ar fwrdd llong y Sir Galahad . Ac eto, pa ffordd well o gyfleu holl arswyd rhyfel? Ar y llaw arall, mae ymuno â chatrawd galed y Paras yn rhoi teimlad o falchder ac o berthyn i Stephen am y tro cyntaf yn ei fywyd, a daw yn ffrindiau agos â chyd-Gymro o’r enw Meic, sy’n gymeriad amlwg arall yn y stori. Y trasiedi ydi fod dynion ifanc fel hyn yn cael eu troi’n beiriannau lladd, a’r rheiny sy’n goroesi yn cael odid ddim cymorth i ddelio efo’r adladd ar ôl iddynt adael y fyddin. Yn y rhagymadrodd byr, dywedir fod ‘300 o filwyr wedi marw o ganlyniad i Ryfel y Falklands – un ai ar faes y gad, neu wedi hynny’. Dyna pryd y daw arwyddocâd y teitl yn amlwg, gan ddwyn i gof eiriau’r Rhingyll wrth y recriwtiaid newydd: ‘ from now on ... you’re just a number .’ Mae 301 yn nofel rymus am gyfnod tywyll yn hanes lled ddiweddar Cymru gan awdur sydd ar frig ei grefft. Prin iawn yw’r hiwmor sydd ynddi, ac eithrio’r frawddeg ‘Gwelais luniau o le a edrychai’n debyg i Drawsfynydd’ (am y Malvinas), ond nid nofel ysgafn i godi calon mohoni. I’r gwrthwyneb. Dylai fod ar y cwricwlwm i geisio atal pobl ifanc rhag ymuno â’r fyddin fel ŵyn i’r lladdfa.
Share
