Cyngor Llyfrau Cymru
A Oes Heddwas?
A Oes Heddwas?
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel dditectif ysgafn ddychanol wedi'i lleoli ar Faes y Brifwyl ym Meifod.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A light-hearted satirical novel set at the National Eisteddfod Maes at Meifod.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845275532
- Gwales Code
- gwales.com.9781845275532
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- A Oes Heddwas?
- Awdur / Author
- Alexander, Myfanwy
- Current Price ex VAT
- £8.00
- Current Price inc VAT
- £8.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-08-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 254 pages
- Size
- 124 × 182 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Fe fydda i’n edrych ar eisteddfodwyr 2016 mewn ffordd wahanol ar ôl darllen A Oes Heddwas? Efallai nad yw Daf Dafis yn hapus bod ei wyliau wedi eu canslo, ond yn bendant mae angen pob heddwas sydd ar gael i blismona Eisteddfod Meifod 2015. Yn ogystal â bwrlwm arferol y canu, y barddoni a’r cymdeithasu mae yna drais, hunanladdiad, cyffuriau, llofruddio, a llawer o bobl anhapus iawn. Cael ei yrru gan deimlad o ddyletswydd, gan yr ysfa i wneud popeth yn iawn i bawb, y mae Daf. Mae e’n blismon trylwyr a theg, ac yn benderfynol o ddal y drwgweithredwyr, ond y tu hwnt i’r gwaith dyw pethau ddim mor hawdd. Mae bywyd personol Daf yn dipyn o lanast. A dweud y gwir, dwi ddim yn meddwl bod yr un o gymeriadau’r nofel yn cael amser cwbl rwydd. Mae gan bawb eu cyfrinachau a’u trafferthion, a does ’na ddim pall ar y datguddiadau wrth i ni garlamu o un digwyddiad neu gyfaddefiad i’r llall. Ond nid nofel lle mae pob sefyllfa’n ddu a gwyn yw hon. Mae modd cydymdeimlo â’r troseddwyr, digio wrth Daf am ei ymddygiad hunanol, a hyd yn oed deimlo mymryn o dosturi – wel, unwaith o leiaf – tuag at Falmai, y fam Gymreig fwyaf oeraidd ohonyn nhw i gyd. Mae hiwmor Myfanwy Alexander yn allweddol i’r mwynhad a geir wrth ddarllen. Ac mae’r ffaith fod y lleoliad yn gyfarwydd, ac mai dim ond ychydig fisoedd sydd ers Eisteddfod Meifod, yn dod ag elfen o ddyfalu difyr i’r nofel. Ceir elfen o garicatur i nifer o’r cymeriadau, ac o or-wneud wrth eu disgrifio, ond mae yna hefyd bethau bach sy’n gyfarwydd i’r rhai sydd wedi bod yn agos at faes Eisteddfod – elfen orgystadleuol ambell gymeriad, Cymreictod ychydig yn snobyddlyd ambell un arall a thueddiad aml un i dreulio’r wythnos gyfan wrth y bar. Dyw e ddim wastad yn ddarllen cyfforddus, yn enwedig wrth i rywun drio dyfalu pa fath o eisteddfodwr ydyn nhw yng ngolwg eraill. Efallai fod y diweddglo ychydig yn rhy sydyn i fi. Wedi holl gyfoeth y cymeriadau a’r plot, mae’r troseddau tua'r diwedd yn cael eu datrys o fewn ychydig frawddegau. Ond mae’r nofel yn gorffen heb roi atebion ynglŷn â bywydau personol nifer o’r cymeriadau. Mae hyn yn fwriadol, mae’n debyg, a fuaswn i ddim yn disgwyl i Myfanwy Alexander roi diweddglo hapus, simplistig i ni. Ond buaswn i wedi hoffi cael gwybod beth ddigwyddodd nesa i amryw o’r cymeriadau – ac mae hyn yn arwydd o'r mwynhad a gefais wrth ddarllen amdanyn nhw.
Share
