Cyngor Llyfrau Cymru
Abermandraw
Abermandraw
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma gyfrol ryddiaith gyntaf Rhys Iorwerth, sy'n ein cyflwyno i rai o gymeriadau rhyfeddol tref Abermandraw ar un bore dydd Mawrth ym mis Tachwedd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
In his first volume of prose, Rhys Iorwerth introduces us to the fictional Welsh town of Abermandraw and some of its fascinating characters.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785620713
- Gwales Code
- gwales.com.9781785620713
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Abermandraw
- Awdur / Author
- Iorwerth, Rhys
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-08-08
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 136 pages
- Size
- 127 × 192 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
• Mae Rhys Iorwerth yn byw yng Nghaernarfon. • Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011 • Roedd yn un o sefydlwyr Bragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd lle bu hefyd yn cynnal dosbarthiadau cynganeddu • Bu'n aelod o dîm Talwrn Aberhafren ac mae'n aelod o dîm ymryson y Deheubarth. • Cyhoeddodd ei gyfrol o farddoniaeth, Un Stribedyn Bach, yn 2014 (Carreg Gwalch) ac enillodd y llyfr hwn gategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Tybed faint o bobl fyddai eisiau byw yn Abermandraw ar ôl darllen y gyfrol ddifyr a gwahanol yma? Mae'r awdur, Rhys Iorwerth, yn enw y byddwn fel arfer yn ei gysylltu â barddoni, ac mae'n fardd hynod lwyddiannus. Yn ogystal ag ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011, enillodd Un Stribedyn Bach gategori'r gyfrol farddoniaeth orau yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Ond dyma’r tro cyntaf iddo fentro cyhoeddi cyfrol o ryddiaith, a bu cryn edrych ymlaen at gyhoeddi hon, byth ers i’r stori gyntaf gael ei chyhoeddi yn O’r Pedwar Gwynt ychydig cyn y Nadolig. Mae Abermandraw yn dref ddychmygol rywle yng ngogledd-orllewin Cymru, sy’n debyg iawn i dref go iawn yng ngogledd-orllewin Cymru. Ceir pob math o bobl yn byw yn y dref hon; nid fod hynny ynddo’i hun yn beth annisgwyl mewn tref gymharol fawr. Ond penderfynu canolbwyntio ar gymeriadau ar ymylon cymdeithas a wnaeth Rhys Iorwerth; pobl sydd, am eu rhesymau eu hunain, fel pe baent yn gweithio’n galed iawn i greu rhyw haen rhyngddyn nhw a’u bywydau bob dydd. Gamblo, cyffuriau, alcohol, rhyw, caredigrwydd, hyd yn oed – dim ots beth, dim ond ei fod yn gweithio i’r unigolyn. Ond i raddau, a thros dro yn unig y mae’r pethau yma’n gweithio, wrth gwrs. Ac mae yna ryw deimlad o dristwch ac anobaith yn llifo drwy’r gyfrol mor araf â llif afon Braw, sydd yn hollbresennol yn y straeon. Ceir enwau digon rhyfedd ar y cymeriadau, megis Slender Len, Shimon Sharck, Regan a Ronan Brenig, Elin Baba, Marzipan Morris a Petal Wynne, i enwi dim ond rhai. Ceir pennod am hanes pob un o’r rhain, a mwy o gymeriadau brith y dref, ac er ein bod yn dod i adnabod rhai ohonynt yn well na’i gilydd, cipolwg a gawn ar eu bywydau, a does dim cyfle go iawn i fynd o dan groen y bobl yma. Maen nhw’n bobl gyffredin, yn bobl sydd â’u gwreiddiau yn yr ardal gan fwyaf ac yn bobl y gallai rhywun ddod ar eu traws yn hawdd mewn unrhyw dref yng Nghymru. Ond hanesion digon anghyffredin sydd yn cael eu hadrodd yma. Canolbwynt y stori yw’r paratoi, a’r edrych ymlaen hyd yn oed, at y ‘te claddu’ yn y Windsor Hotel, ond a fydd yr angladd yn digwydd? Bydd yn rhaid i chi ddarllen yr hanes! Mae’r gyfrol wedi ei hysgrifennu trwy lygaid adroddwr sy’n rhyw fath o linyn cyswllt rhwng y gwahanol straeon. Mae’r ysgrifennu’n goeth ac yn gyfoethog, yn farddonol ac yn draddodiadol. Ac fel y gellid disgwyl, wrth gwrs, mae'n ffraeth, yn ddoniol ac yn ddwys, gyda thafod yr awdur wedi ei phlannu’n sownd yn ei foch am rannau helaeth o’r stori. Mae yna ddychan ddeifiol wrth drin a thrafod ein cymdeithas ni heddiw. Wrth ddarllen y gyfrol, fe ddylech chwerthin, fe ddylech arswydo, fe ddylech gydymdeimlo ac fe ddylech fwynhau. Mae’r clawr, a ddyluniwyd gan Rhys Aneurin, yn syml iawn ac yn hynod o foel a diaddurn, ond mae'n fwy trawiadol oherwydd hynny.
Share
