Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr

Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Adargraffiad o nofel rymus wedi'i lleoli ym Mhen Llŷn yn plethu themâu straeon ditectif, serch a chymdeithasol ynghyd, gyda'r môr yn chwarae rhan bwysig ym mywydau'r cymeriadau, gan un o nofelwyr mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd Cymru chwarter olaf yr 20fed ganrif. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1979.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A re-edition of a powerful novel set in the Llŷn peninsula weaving themes of detective, love and social novels together, with the sea playing an important part in the lives of the characters, by one of the most successful and popular novelists of the last quarter of the 20th century. First published in 1979.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780850888010
Gwales Code
gwales.com.9780850888010
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr
Awdur / Author
Jones, Alun
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-02-14
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
240 pages
Size
196 × 128 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Ddwy flynedd ar hugain yn ôl yr ymddangosodd argraffiad cyntaf y nofel hon. Un argraffiad ar ddeg yn ddiweddarach, deil i gynnig stori ogleisiol a chaboledig, a honno wedi’i saernïo’n gelfydd ac yn ddiddos tu hwnt. Er gwaetha’r holl flynyddoedd ers imi agor y llyfr am y tro cyntaf, daeth holl gyffro’r stori’n ôl ataf yn syth ar ôl darllen ychydig baragraffau’n unig, a’r awydd i gyrraedd y diweddglo (anghofiedig) yr un mor gryf. Roedd llawer iawn o’r manylion hefyd wedi pylu, neu wedi mynd dros gof yn llwyr, ac felly’n dal i gynhyrfu’r emosiynau o’r newydd. Yn anaml y bydda i’n dewis ailddarllen dim byd y dyddiau hyn, yn enwedig gyda chymaint o bethau newydd yn hawlio sylw o hyd. Ond mae hon yn llifo fel afon ac mae rhywun yn gallu ymlacio wrth ei darllen gan adael i rediad y stori ei gario i’r tudalen olaf heb orfod ymlafnio na cholli amynedd Hanes y pensaer, Meredydd Parri, a gafwyd yn ddieuog – a hynny’n hollol gyfiawn – o drosedd ddifrifol, yn dychwelyd i’w gynefin ym Mhen Llŷn ar ôl cyfnod yn y ddalfa, yw craidd y nofel. Dilynwn anawsterau’r broses boenus, chwerwfelys sy’n ei wynebu wrth geisio ailafael yn ei fywyd a dysgu ymddiried o’r newydd. Yn cydblethu â helyntion Meredydd y mae hanes datrys a dirgelwch dau droseddwr go iawn yn dychwelyd at eu celc yn yr un ardal ac yn cael coblyn o ail. Gyda strwythur cymaint o nofelau Cymraeg dros y chwarter canrif ddiwethaf yn aml yn niwlog, clogyrnaidd neu’n methu’r nod ar bob cownt, saif Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr ben ac ysgwydd uwchlaw llawer iawn o ryddiaith y cyfnod. Ategir y strwythur cadarn, di-lol yma gan gymeriadau diddorol, anystrydebol, adnabyddiaeth drylwyr o genre , bydolwg y cymeriadau a disgwyliadau’r gynulleidfa, a’r hen ffetis Cymraeg hollbwysig hwnnw, wrth gwrs, iaith rywiog werth chweil. ’r Gymraeg yn encilio ar garlam hyd yn oed ym mherfeddion Llŷn erbyn hyn, mae rhyw gysur hiraethus i’w gael wrth ddarllen nofel sy’n ail-greu mewn ffordd mor ddiffuant a chredadwy naws cymuned Gymraeg y 1970au – lle y byddai gweinyddesau, mae’n debyg, yn darllen Pigau’r Sêr i ladd ambell orig segur y tu ôl i’r bar. Efallai eu bod nhw'n dal i wneud hynny, ond dwi’n amau rywsut. Hon oedd nofel gyntaf Alun Jones a’r hyn sy’n galonogol yw’r ffordd y mae’r awdur, ar ôl campwaith mor addawol, wedi mynd ati i ddatblygu ac ymgryfhau o nofel i nofel ers hynny, a’r calondid mwyaf yn ddiweddar o weld nad yw wedi’i lwyr ddiflasu gan y rhwystredigaethau sy’n gallu mynd yn fwrn ar y nofelydd Cymraeg cyfoes, a bod cyfrol newydd sbon ganddo yn y siopau ers tro.

View full details