Cyngor Llyfrau Cymru
ACADEMI ARCHARWYR: DIAL Y GELYN GWYRDD
ACADEMI ARCHARWYR: DIAL Y GELYN GWYRDD
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Breuddwydiai Siôn Botwm am fod yn archarwr, a phan gaiff ei dderbyn yn fyfyriwr yn Ysgol y Nerthol, mae ar ben ei ddigon. Dyma stori ddoniol iawn mewn cyfres newydd. Addasiad Cymraeg ar gyfer plant CA2 dros 7 oed.
Disgrifiad Saesneg / English Description
From the bestselling author of Dirty Bertie, suitable for children aged 7 years+ and Key Stage 2. Stan Button had always dreamed of becoming a superhero. Then one day a letter arrives inviting him for an interview at the mysterious Mighty High School. To his amazement, Stan is offered a place - starting immediately. Really funny book and the start of an exciting new series.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849672238
- Gwales Code
- gwales.com.9781849672238
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- ACADEMI ARCHARWYR: DIAL Y GELYN GWYRDD
- Awdur / Author
- MacDonald, Alan
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-03-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- George, Mari
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 176 pages
- Size
- 129 × 182 mm; depth 12 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Bwriad y llyfr yma yw gwneud i blant chwerthin yn uchel. Mae’n gwneud hynny’n dda iawn. Mae’n stori sy’n llifo’n gyflym, yn hawdd darllen, ac yn gwbl, gwbl hurt. Mae Siôn Botwm yn breuddwydio am fod yn archarwr, ond oes modd iddo wneud hynny? Wedi’r cyfan dim ond bachgen cyffredin yw e, bachgen cyffredin sy’n digwydd gallu rhag-weld digwyddiadau am fod ei glustiau'n cosi pan fo rhyw dro ar fyd! Mae Siôn yn derbyn llythyr gan Ysgol y Nerthol ac o fewn dim mae e, a'r darpar archarwyr eraill, yn brwydro yn erbyn y Gelyn Gwyrdd a’i gynlluniau dieflig. Mae yna synnwyr cryf o’r abswrd yn y llyfr hwn, ac mae’r awdur yn cael hwyl gydag enwau, digwyddiadau a’r syniad o fod yn archarwr yn gyffredinol. Yn ôl y brifathrawes, Miss Marblen, yr hyn sy’n hanfodol i’w disgyblion yw “amynedd, disgyblaeth, a’r math iawn o deits”. A dweud y gwir mae rhaid i’r darpar archarwyr greu eu gwisgoedd ei hun, gan dalu sylw i’r cyfarwyddiadau yn y Llawlyfr Canllaw Archarwyr. Ac mae’r Gelyn Gwyrdd, er ei fod yn rhif 42 ar y rhestr o archdroseddwyr mwyaf peryglus y byhd, yn drewi’n barhaol o fresych ac yn cael ei alw'n dwmplen a siwgwr lwmp gan ei fam. Mae’r llyfr cyntaf yma yn y gyfres Academi Archarwyr yn llawn hwyl, wrth i Siôn a’i ffrindiau newydd frwydro i achub yr ysgol a’r byd. Mae’r awdur yn deall yn iawn sut i wneud i blant chwerthin, sy'n dipyn o gamp.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
From the bestselling author of Dirty Bertie, suitable for children aged 7 years+ and Key Stage 2. Stan Button had always dreamed of becoming a superhero. Then one day a letter arrives inviting him for an interview at the mysterious Mighty High School. To his amazement, Stan is offered a place - starting immediately. His superpower is 'non-conventional', as are those of his two new best friends, but lessons in supervillain-spotting and tight-wearing mean they are soon ready to defeat the evil Green Meanie. who might just be none other than Professor Von Hardbum, a teacher at their school. Each adventure will be heavily illustrated throughout with fantastic art by Nigel Baines, for truly brilliant comic-book style fun.
Share
