Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Adar o'r Unlliw

Adar o'r Unlliw

Regular price £9.00 GBP
Regular price Sale price £9.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel ysgafn gan awdur newydd sy'n llawn hiwmor a chariad ond sy'n trafod bywyd teuluol heddiw gyda sensitifrwydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A roller coaster of a novel by a new author which portrays the conflict of contemporary family life with humour and insight.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912173334
Gwales Code
gwales.com.9781912173334
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Adar o'r Unlliw
Awdur / Author
Jones, Catrin Lliar
Current Price ex VAT
£9.00
Current Price inc VAT
£9.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-08-11
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
256 pages
Size
130 × 200 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma nofel gyntaf Catrin Lliar Jones, ac mae’n sicr yn ddechrau da! Yma, cawn glywed hanes lliwgar Luned, y prif gymeriad, o’i safbwynt hi ei hun. Egyr y nofel trwy adrodd am y profiad o roi genedigaeth, a dilynir hynny gyda digwyddiadau yng nghyfnod nesaf bywyd Luned a’r bobl o’i chwmpas. Wrth i’r stori fynd rhagddi, cawn hefyd ein tynnu’n ôl i ddigwyddiadau yng ngorffennol Luned – digwyddiadau sydd wedi siapio ei phersonoliaeth a’i bydolwg. Yn groes i awydd Luned, daw Shoned, y ferch yn y gwely drws nesaf iddi yn yr ysbyty, yn rhan ganolog o’i stori hefyd, ac er mor annhebyg yw’r ddwy ar yr olwg gyntaf, amlygir mai adar o’r unlliw ydynt mewn gwirionedd. Mae bywyd Luned ymhell o fod yn syml, a’r gyfrol yn cynnwys clytwaith o linynnau storïol lliwgar. Mae llawer yn digwydd ym mywyd Luned – o roi genedigaeth i’w phlentyn cyntaf i fod yn fam i ddau blentyn o berthynas flaenorol; o ddarganfod ffrind annisgwyl yn Shoned, i ddarganfod gwirioneddau poenus am aelodau o’i theulu – does dim cyfle i ddiflasu wrth ddarllen y gyfrol hon. Yn ogystal â’r digwydd difyr, mae’r cymeriadau’n lliwgar tu hwnt hefyd, a’r modd y caiff y cymeriadau cryf eu portreadu yn elfen gref iawn o’r nofel. Elfen gref arall yw’r deialogau drwyddi draw – mae dawn yma i amlygu cymeriadau trwy eu sgwrsio, ac o gyflwyno’r deialogau’n llafar a realistig iawn. Mae llawer o ddoniolwch i’w gael yn y sgyrsiau hyn wrth i gymeriadau siarad yn blaen. Dyma elfen sy’n wir am y stori ei hun hefyd – mae'r siarad yn onest a'r stori'n cynnwys disgrifiadau graffig wrth gyflwyno profiadau sydd ymhell o fod yn rhai ysgafn. Ymdrinnir â phynciau dwys megis iselder a gorbryder, gan lwyddo i gadw’r hiwmor a’r ysgafnder yr un pryd. Mae’r nofel yn frith o ddisgrifiadau teimladwy, a llwydda’r awdur i dynnu’r darllenydd i ganol y stori o’i dechrau i’w diwedd. Er yr arddull anffurfiol, mae’r awdur yn trin geiriau’n dda, a gwneir defnydd cofiadwy o gymariaethau ac idiomau difyr. Er y trafodir pynciau pwysig nas gwelir yn aml mewn nofelau Cymraeg, mae’r arddull ysgafn yn sicrhau bod y nofel yn un hwyliog a doniol dros ben. Os ydych chi’n chwilio am gyfrol i ddianc iddi am ddiddanwch, mae hon yn sicr yn werth eich amser.

View full details