Cyngor Llyfrau Cymru
Adref - Casgliad o Straeon Byrion
Adref - Casgliad o Straeon Byrion
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
30 stori fer gan ferched, yn dilyn cystadleuaeth sgwennu stori fer yng nghylchgrawn Cara . Mae'r gyfrol yn cynnwys straeon gan awduron profiadol fel Heiddwen Tomos, Casia Wiliam, Mari George, Dana Edwards a Rebeca Roberts, ac awduron newydd, ifanc fel Fflur Evans, Marged Wiliam, Martha Grug Ifan, Sioned Erin Hughes, a llawer mwy!
Disgrifiad Saesneg / English Description
30 short stories by women, being the fruits of a short story competition in the magazine Cara . The book comprises stories by experienced authors such as Heiddwen Tomos, Casia Wiliam, Mari George, Dana Edwards and Rebeca Roberts, and young, new authors such as Fflur Evans, Marged Wiliam, Martha Grug Ifan, Sioned Erin Hughes, and many more!
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781527275454
- Gwales Code
- gwales.com.9781527275454
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Adref - Casgliad o Straeon Byrion
- Awdur / Author
- amrywiol, Awduron
- Current Price ex VAT
- £8.00
- Current Price inc VAT
- £8.00
- Availability Status (EN)
- Temporarily out of stock
- Availability Status (CY)
- Allan o stoc dros dro
- Dyddiad argaeledd / Availability Date
- 2020-11-24
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-11-24
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cylchgrawn Cara
- Darlunydd / Illustrator
- Haf, Tanwen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 132 pages
- Size
- 148 × 178 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Petai rhywun yn gofyn i chi ysgrifennu stori neu hyd yn oed roi sgwrs ar y testun 'Adref', sgwn i beth ddywedech chi? Mae’n amlwg oddi wrth y casgliad yma o straeon y gall y gair olygu rhywbeth gwahanol i bob un ohonon ni, a’r rhywbeth hwnnw’n amrywio rhwng dyhead am gysur a pherthyn, hiraeth am a fu, tristwch, colled, caethiwed, gormes ... Ffrwyth cystadleuaeth a drefnwyd gan gylchgrawn Cara yw’r gyfrol sy’n cynnwys 30 o straeon byrion gan 28 o awduron gwahanol, yn ferched i gyd, yn enwau cyfarwydd a newydd. Mae pob un yn tynnu’r darllenydd i mewn yn ddiymdroi i’w byd dryslyd neu derfysglyd gwahanol eu hunain. Efallai fod rhai mor fyr a sydyn fel eu bod nhw'n gadael y darllenydd yn ceisio dyfalu neu gofio o ble i ble roedd taith y stori wedi mynd; yn sicr, mae pob un yn codi ac yn gadael cwestiynau ac yn haeddu ei hailddarllen. Dwy gamp wrth greu casgliad tebyg i hwn ar un pwnc yw osgoi bod yn ailadroddol, ac, o ystyried natur y pwnc, osgoi bod yn sentimental neu orhiraethus. Dim ond yr arlliw ysgafnaf o ailadrodd deimlais i rhwng y gwahanol storiau, ac yn sicr does yma ddim arlliw o sentimentaleiddiwch. Pam 'Adref' ac nid 'Gartref'? meddyliais pan glywais y teitl am y tro cyntaf. Wrth ddarllen daeth y rheswm yn amlwg. Lle disymud yw 'Cartref', – bod gartref, byw gartref, aros gartref bydd rhywun; ar y llaw arall cyrchfan, pen draw taith yw 'Adref' – mynd tuag adref byddwn ni. Teithiau corfforol neu ysbrydol, neu’r ddau gyda’i gilydd, tuag adref sydd yma. Mae ‘teg edrych tuag adref’ yn ddywediad cyfarwydd, ond a ydy e, o reidrwydd, yn wir? Yr ateb yw bod hynny’n dibynnu ar ystyriaethau ac agweddau rif y tywod mân. Mae’r gyfrol hon yn cynnig dyrnaid o’r rheiny mewn arddull ac iaith raenus, ystwyth ac ysgogol, ac, yng ngeiriau Manon Steffan Ros, beirniad y gystadleuaeth, 'yn caniatáu i ni sylweddoli fod y chwaeroliaeth yn fyw ac yn iach ac yn graff.'
Share
