Cyngor Llyfrau Cymru
Agor Llenni'r Llygaid
Agor Llenni'r Llygaid
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol gyntaf o gerddi i blant gan y bardd talentog, Aneirin Karadog. Cyhoeddir y gyfrol yn dilyn cyfnod Aneirin Karadog fel Bardd Plant Cymru, ac mae'n cynnwys casgliad o gerddi hwyliog a difyr ar gyfer cynulleidfa oed cynradd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The first collection of poems for children by the talented poet, Aneirin Karadog. The volume is published following his period as the Welsh Children's Poet, and comprises humorous and entertaining poems for primary school readers.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785620393
- Gwales Code
- gwales.com.9781785620393
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Agor Llenni'r Llygaid
- Awdur / Author
- Karadog, Aneirin
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-09-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Howells, Graham
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 165 × 240 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Ganed Aneirin Karadog yn Llanelwy a mynychodd ysgolion cynradd Pontardawe a Phont Siôn Norton ym Mhontypridd cyn mynd ymlaen i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Aeth ymlaen i astudio Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen ac mae bellach yn byw ym Mhontyberem, Sir Gâr. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd yn 2005 a daeth i’r brig yng nghategori barddoniaeth gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013 am ei gyfrol O Annwn i Geltia yn 2013.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dychmyga petai dy nain yn ffrindiau ag Eminem. Dychmyga fod Dad yn ‘rhy’ bob dim. Dychmyga dref o drychfilod. Dyna hwyl! Dychymyg byw – does dim byd tebyg iddo, yn nag oes? Gall dy hudo o un lle i’r llall wrth i ti gyfarfod â chymeriadau lu ar y daith. Mae’r llyfr hwn yn llawn cerddi clyfar a choeglyd ac yn berwi o ryfeddodau o fyd natur, bywyd bob dydd a ffantasi. Ie, dyma’r dewin geiriau, Aneirin Karadog, yn agor drysau i fydoedd gwahanol trwy ei ddawn dweud drwy gyfrwng odl. Mae'n sôn am ddeffro yn y bore, dirgelwch y nos, am fod yn styc mewn car am oriau ac am gastell tywyll yr Hen Fampir Blin. Na, does dim diwedd ar y danteithion ar odl yma ac mae pob cerdd yn flas ar bethau da bywyd. Ac ambell dro, bydd y bardd yn petruso ynghylch pethau go gymhleth, fel y gwahaniaethau rhwng iaith yr Hwntws a’r Gogs, a rhywbeth na feddyliais i erioed amdano – pwy goblyn sy’n dod ag anrheg i Siôn Corn? Mae’r gyfres o gerddi yn un dda i’w chodi oddi ar y silff o dro i dro neu i’w darllen fel fflamiau’n ribidirês! Dyma gyfrol ddelfrydol hefyd i’w darllen cyn mynd i gysgu – mae’n sicr o sbarduno breuddwyd neu ddwy. A chofiwch am hon hefyd os ydych yn edrych am rywbeth i lenwi'r hosan Nadolig honno ...
Share
