Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Alawon Gwerin Iolo Morganwg

Alawon Gwerin Iolo Morganwg

Regular price £12.95 GBP
Regular price Sale price £12.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma lyfr yn dod ag 88 o alawon a gasglwyd gan Iolo Morganwg i olau dydd am y tro cyntaf. Yn ogystal â'r alawon a'r caneuon, mae'r gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd a nodiadau manwl yn Gymraeg a Saesneg, sy'n rhoi hanes a chefndir y geiriau a'r gerddoriaeth. Ar gael oddi wrth Dr Rhidian Griffiths, Coed y Berllan, Ffordd Bryn-y-môr, Aberystwyth, SY23 2HX.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This book brings 88 tunes collected by Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) to the light of day for the first time. As well as tunes and songs, the volume contains a detailed introduction and notes in Welsh and English, giving the history and background to words and music. Available from Dr Rh Griffiths, Coed y Berllan, Ffordd Bryn-y-môr, Aberystwyth, SY23 2HX.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780953255573
Gwales Code
gwales.com.9780953255573
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Alawon Gwerin Iolo Morganwg
Awdur / Author
Gwerin, Cymdeithas Alawon
Current Price ex VAT
£12.95
Current Price inc VAT
£12.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-08-13
Cyhoeddwr / Publisher
Cymdeithas Alawon Gwerin
Editor
Salisbury, Leila
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
272 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh; English
Categori / Category
CY: Cerddoriaeth, Caneuon, Caneuon Poblogaidd (yn Gymraeg) | EN: Music and Songs (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Caneuon Gwerin (yn Gymraeg) | EN: Folk Songs (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Ganwyd Leila Salisbury yng Nghaerdydd ac fe’i magwyd yn Llangynog ger Caerfyrddin. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin cyn mynd i Brifysgol Bangor lle y graddiodd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth. Astudiodd alawon gwerin Iolo Morganwg ar gyfer ei gradd MPhil, sy’n sail i’r gyfrol hon.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Leila Salisbury was born in Cardiff and brought up in Llangynog near Carmarthen. She was educated at Ysgol y Dderwen and Ysgol Bro Myrddin before going to Bangor University where she graduated in Welsh and Music. She studied the folk-songs of Iolo Morganwg for her MPhil degree, which is the basis of this volume.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae cyhoeddiad newydd gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn dod ag 88 o alawon a gasglwyd gan Iolo Morganwg i olau dydd am y tro cyntaf. Cyhoeddir Alawon Gwerin Iolo Morganwg, a olygwyd gan Leila Salisbury, yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, lle bydd Leila hefyd yn traddodi Darlith Goffa Amy Parry-Williams ar Alawon Iolo. ‘Roedd Iolo Morganwg yn ddyn dawnus ac amlochrog iawn,’ medd Leila. ‘Fe oedd casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru, ac mae’r rhan fwyaf o’r alawon yn y gyfrol yn dod o’i fro ei hun, sef Bro Morgannwg, cartref yr Eisteddfod eleni. Nododd rhai alawon gyda’u geiriau, ac eraill fel alawon offerynnol yn unig. Bydd y casgliad hwn o ddefnydd i gantorion ac offerynwyr gwerin yn ogystal ag ymchwilwyr sy’n ymddiddori yn ein cerddoriaeth werin.’ Yn ogystal â’r alawon a’r caneuon, mae’r gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd a nodiadau manwl yn Gymraeg a Saesneg, sy’n rhoi hanes a chefndir y geiriau a’r gerddoriaeth. Cyhoeddir y gyfrol yn y Stiwdio ar faes yr Eisteddfod am 11.00 fore Mawrth, 7 Awst. Yn ogystal, bydd sesiwn perfformio rhai o’r alawon a’r caneuon ym mhabell Tŷ Gwerin rhwng 3.00 a 4.00 brynhawn Mawrth.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

A new publication by Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (The Welsh Folk-Song Society) brings 88 tunes collected by Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747–1826) to the light of day for the first time. Alawon Gwerin Iolo Morganwg, edited by Leila Salisbury, will be published at the National Eisteddfod in the Vale of Glamorgan, where Leila will also be delivering the Amy Parry-Williams memorial lecture on Iolo’s folk-music. ‘Iolo Morganwg was a gifted and versatile man,’ says Leila. ‘He was the first collector of Welsh folk-songs, and most of the tunes in the book come from his own area, the Vale of Glamorgan, which is home to this year’s Eisteddfod. He noted some melodies with their words, and others as instrumental tunes. This collection will be of value to folk-singers and instrumentalists alike, as well as to researchers who are interested in our folk music.’ As well as tunes and songs, the volume contains a detailed introduction and notes in Welsh and English, giving the history and background to words and music.

View full details