Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Amser Drwg Fel Heddiw

Amser Drwg Fel Heddiw

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Yn nhref Llanrwst daeth yr Ail Ryfel Byd â phwysau mawr ar fywyd y meddyg Dr Lewis Huws, a hynny'n bennaf oherwydd ei gamgymeriadau ef ei hun yn ei ymwneud â'i gyfeillion a'i gariadon. Mae'r nofel yn olrhain ei hanes ef drwy gyfnod y rhyfel. Ei brofiadau anodd sy'n gwneud iddo newid ei feddwl am rai pethau ac yn y pen draw mae ei fywyd yn dechrau gwella.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The Second World War brought great pressures on the life of Llanrwst GP, Dr Lewis Huws, mainly because of his own mistakes in his dealings with his friends and lovers. This novel tracks his story throughout the war. Difficult experiences force him to change his mind about some aspects of his life and gradually, his life changes for the better.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800995680
Gwales Code
gwales.com.9781800995680
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Amser Drwg Fel Heddiw
Awdur / Author
Jones, Iwan Meical
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2024-03-06
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
320 pages
Size
135 × 210 mm; depth 15 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Hanesyddol, Geltaidd ac Arthuraidd (yn Gymraeg) | EN: Historic, Celtic and Arthurian Fiction (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C020637

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Ganed Iwan Meical Jones yn Llanrwst ac ers hynny mae wedi byw ym Mangor, y Trallwm, Aberystwyth a Chaerdydd. Ar ol astudio mathemateg bu'n trefnu arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Oddi yno aeth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle bu'n gyfrifol am gadwraeth y casgliadau. Mae wedi ysgrifennu sgriptiau ffilm a theledu, nifer o erthyglau ar hanes ffotograffau, ac un llyfr, Hen Ffordd Gymreig o Fyw (Gwasg y Lolfa, 2008) am y ffotograffydd John Thomas (1838-1905).

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Llanrwst adeg yr Ail Ryfel Byd yw lleoliad nofel gyntaf Iwan Meical Jones, Amser Drwg fel Heddiw . Mae gan unrhyw awdur sy’n sgwennu am gyfnod hanesyddol ddwy broblem. Yn gyntaf rhaid ymchwilio’n ofalus i greu darlun clir o’r cyfnod. O’r dechrau gwelir bod yr agwedd hanesyddol yn gredadwy, yn bennaf trwy gyflwyno ffeithiau a manylion sydd bellach yn angof niwlog. Beth am y rheolau dogni bwyd, cyfarwyddiadau’r blacowt, y cyfyngiadau ar deithio a’r gosb gyfreithiol o dorri’r rheolau? Er iddo wneud ei waith cartref yn drylwyr, mae’r awdur yn taro’r balans cywir gan osgoi’r demtasiwn i orddangos ei wybodaeth, temtasiwn a allai arwain at lethu ac arafu rhediad y stori. Yr ail broblem yw gosod y cymeriadau yn y cyfnod, a bellach nid ymchwil sydd ar waith ond dychymyg. Sut oedd trigolion Llanrwst a’r fro yn ymateb i heriau’r rhyfel? Efallai nad oedd yno fomio nac ymosodiadau uniongyrchol, ond roedd bywyd wedi newid a’r trigolion yn eu tro yn gorfod addasu eu harferion a phatrwm byw yn sgil y newidiadau: ifaciwis yn cyrraedd, consgripsiwn, pentrefwyr na theithiodd ymhellach na Llandudno yn mynd i ben draw’r byd, rhai yn dychwelyd, rhai yn marw ar faes y gad. Mae’r cyfan yno ac wedi’u gwau at ei gilydd yn grefftus. Fel ymhob tref mae 'na arweinwyr – meddyg, plismon, gweinidog ac athrawes – a’u hymatebion nhw i gyfnod y rhyfel sy’n gyrru’r plot. Pwysir y tensiynau bob dydd yn erbyn egwyddorion a dyheadau gwrthwynebwyr cydwybodol, yr ychydig rai a wrthododd enlistio, gan ddioddef sen a gwawd am eu safiad. Mae moeseg yr oes yn ganolog i’r stori, moeseg oedd yn pylu'n raddol. Wedi’r rhyfel, nid oedd modd dychwelyd at esmwythdra’r gorffennol. Ni fyddai Llanrwst, na sawl llan arall, fyth yr un fath. Y prif gymeriad yw Dr Lewis Huws, meddyg y dref. Wrth ddarllen amdano down i sylweddoli beth oedd gofynion cynnal practis cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol: cleifion yn talu i weld y doctor, talu am foddion a thabledi, ac yn aml y doctor ei hun yn cymysgu’r ffisig – y ffisig pinc bondigrybwyll a roddai, o bosib, wellhad corfforol ac yn bwysicach, esmwythder meddyliol. Apphia Davies yw howscipar Lewis, dynes â’i bryd ar drefnu bywyd ei bòs. Ac mae gwir angen trefn arno. Mae Lewis Huws yn berson simsan na all wneud penderfyniad ar ei grogi. Weithiau mae’r ffaeledd yn ddibwys – pa fath o wy i frecwast – ac weithiau yn ddifrifol megis canlyn a dewis cymar. Yn eironig, ei wendid ef sy’n rhoi cryfder i’r nofel ac mae agwedd ddi-dda, ddi-ddrwg y meddyg yn rhoi sawl plwc annisgwyl i’r naratif. Yn ei hanfod, nofel am bobl a’u troeon trwstan yw hon. Fel mae’r awdur ei hun yn cydnabod, ‘gyda’i gilydd neu fel unigolion mynnai pobl wneud pethau ffôl a dychrynllyd dro ar ôl tro’. Gwir y gair. Cyfoethogir y dweud am fod Iwan Meical Jones yn portreadu bro ei febyd, nodwedd sy’n rhoi naws agos-atoch-chi i’r stori.

View full details