Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ar Drywydd Enwau Lleoedd

Ar Drywydd Enwau Lleoedd

Regular price £14.99 GBP
Regular price Sale price £14.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol a gyhoeddir i ddathlu pen blwydd yr Athro Gwynedd O. Pierce yn 100 oed yn 2021. Ceir ynddi 13 erthygl Gymraeg, a 7 erthygl Saesneg, gan ystod eang o bobl. Mae'r testunau yn amrywio o enwau lleiniau pysgota ger Caernarfon ac enwau strydoedd y dref honno i enwau penrhynnau yng Nghernyw; o enwau strydoedd Caerdydd i bwysigrwydd enwau lleoedd yng ngherddi'r Oesoedd Canol.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A volume published to celebrate Professor Gwynedd O. Pierce's hundreth birthday in 2021.The volume contains 13 Welsh articles and 7 in English. The subject matter of the articles varies from Caernarfon street names and fishing flaps to the names of capes in Cornwall; from Cardiff street names to the importance of place names in Medieval Welsh poetry.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800990883
Gwales Code
gwales.com.9781800990883
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ar Drywydd Enwau Lleoedd
Awdur / Author
Cymru, Cymdeithas Enwau Lleoedd
Current Price ex VAT
£14.99
Current Price inc VAT
£14.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-07-31
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Editor
Bevan, Gareth A.; Fychan, G. Angharad; Owen, Hywel Wyn; Owen, Ann Parry
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
202 pages
Size
156 × 234 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywyd ac Arferion Cymru (yn Gymraeg) | EN: Welsh Life and Customs (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Roedd yr Athro Emeritws Gwynedd O. Pierce yn ddarlithydd poblogaidd, ymroddedig a hoffus o fewn Coleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd, am flynyddoedd. Penodwyd ef yn Athro Hanes Cymru yno yn 1975, cadair a lenwodd i'r ymylon nes iddo ymddeol yn 1988. Drwy gydol ei yrfa datblygodd yn un o'n prif awdurdodau ar hanes enwau lleoedd yng Nghymru, gan iddo gyhoeddi'n gyson yn y maes arbennig hwn yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, a cheir rhestr hwylus o'i gyhoeddiadau yn y maes o fewn y gyfrol deyrnged hyfryd hon. Ymhlith ei gyhoeddiadau mwyaf sylweddol yn y maes mae The Place-names of Dinas Powys Hundred (1968), campwaith yn y maes hwn a seiliwyd i raddau ar ei draethawd MA. Bu'n rhaid i Gwynedd Pierce ymgodymu â Hen Gymraeg, Eingl-Sacsoneg, Norseg, Lladin, a Ffrangeg, heb sôn am Gymraeg a Saesneg cyfoes, er mwyn datgelu cyfoeth enwau'r fro. Dylid nodi hefyd ei gyfrol ddiweddarach, Dan y Bargoed: Rhai o Enwau Ardal Cwm Rhymni , (1990), a chyfrannodd yn ogystal at nifer o gylchgronau a chyfrolau academaidd dros y blynyddoedd. Bu Gwynedd Pierce hefyd yn trafod enwau lleoedd yn y Western Mail , Y Dinesydd , sef papur bro poblogaidd dinas Caerdydd, a’r Gadwyn , sef cylchgrawn ei gapel, Eglwys y Crwys yng Nghaerdydd, yn ogystal â chyfrannu at lyfrau poblogaidd ond safonol megis y ddwy gyfrol Ar Draws Gwlad . Tybiaf mai Gwynedd Pierce yw'r cyntaf o'n haneswyr Cymreig i ddathlu ei ben-blwydd yn gant oed, gan ddal yn finiog ei feddwl ac yn gymharol iach ei gorff hyd heddiw. Pleser arbennig yw cael gweld lluniau ohono yn y wasg yn dal y llyfr hwn yn ei ddwylo, yn amlwg yn werthfawrogol o’r deyrnged y mae'n ei haeddu. A rhaid llongyfarch y golygyddion, pob un yn ysgolhaig yn ei faes ei hun, yn wresog ar eu llwyddiant yn cywain ynghyd dîm o gyfranwyr mor ddisglair. Hwn yw'r llyfr cyntaf oll a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, cymdeithas a ddaeth i fodolaeth yn 2011. Yn y flwyddyn ganlynol penodwyd Gwynedd yn llywydd anrhydeddus arni. Ceir cyfle i ddarllen hanes y gymdeithas a'i champau nodedig dros y deng mlynedd olaf yn erthygl gryno o waith Rhian Parry. O fewn y llyfr ceir tair erthygl ar ddeg yn Gymraeg a saith yn Saesneg, pob un ohonynt o'r safon uchaf ac yn bleser ei darllen, gyda’r pynciau a drafodir yn eang eithriadol eu cwmpas. Mae rhai o'r ysgrifau yn rhoi ystyriaeth lawn i enwau lleoedd mewn ardaloedd mor amrywiol â strydoedd tref Aberaeron, strydoedd dinas Caerdydd (mewn cysylltiad â gyrfa hynod yr hynafiaethydd adnabyddus John Hobson Matthews, 1858-1914), a thref Chaernarfon (lle ganed Gwynedd Pierce a Glenda Carr, awdur y cyfraniad hwn, fel ei gilydd). Mae erthyglau eraill yn trafod enwau lleoedd o fewn Bont-goch, neu Elerch, rhanbarth gwledig diarffordd yng ngogledd Ceredigion, lle mae'r awdur Richard E. Huws yn byw ers rhai blynyddoedd bellach, ardal gyfagos y Borth nid nepell o Aberystwyth, a'r enwau hyfryd, amrywiol eu natur, sydd yn addurno rhanbarth arfordir y Fenai – o dref Caernarfon i Fae Caernarfon. Yma ceir nifer o gyfeiriadau pwysig a diddorol at enwau lleiniau pysgota a throbyllau sydd yn y Fenai. A meistrolgar yw ymdriniaeth Oliver Padel, arbenigwr digymar yn y maes hwn ac astudiaethau Cernyweg yn gyffredinol, ar y gydberthynas rhwng tref Penarth, sir Forgannwg, a llefydd o'r un enw, yn fwyaf arbennig o fewn Cernyw lle ceir un ar ddeg o leoedd â'r enw Penarth. Arbennig o ddadlennol hefyd yw cyfraniad Eleri Hedd James ar yr ymgyrchoedd dygn a wnaed ers blynyddoedd bellach i geisio safoni enwau lleoedd o fewn Cymru, mudiad y bu Gwynedd Pierce yn ei gefnogi'n frwd ac yn ymarferol. Fel y gwelwn yma, bu Gwynedd Pierce yntau a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru fel ei gilydd yn lew yn arwain nifer o brosiectau cymunedol i nodi a rhoi ar gof a chadw ein henwau lleoedd traddodiadol yng Nghymru. Ceir ambell gyfraniad hynod o ysgolheigaidd o fewn y casgliad hwn, gan gynnwys ysgrifau o waith arbenigwyr o'r Alban a'r Iwerddon. Yn eu plith mae ymdriniaeth yr Athro Ann Parry Owen ar enwau lleoedd sydd i’w cael o fewn ein llawysgrifau canoloesol, yn bennaf yn ystod y deuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg, ac yn ddiweddarach ymhlith cynnyrch nodedig Beirdd yr Uchelwyr sydd yn fwrlwm o gyfeiriadau at enwau lleoedd, amryw ohonynt, ysywaeth, yn lled niwlog eu harwyddocâd i ninnau heddiw ond yn hynod bwysig ar y pryd ac yn hanesyddol. Hyfryd yw cael darllen y teyrngedau cynnes a gynhwysir o fewn y gyfrol hon, yn fwyaf arbennig erthygl Dei Tomos. Mae llawer mwy o waith yn aros i'w wneud ar enwau lleoedd yng Nghymru, fel mewn rhanbarthau eraill wrth gwrs, ond mae Gwynedd Pierce yn dal i fod yn ysbrydoliaeth i bawb sydd wedi mentro i'r maes hanfodol hwn. Hyfryd a phleserus arbennig, felly, yw cael y cyfle i gyfarch Gwynedd ar ei ben-blwydd yn gan mlwydd oed. Cymaint fu ei gyfraniad i'r maes pwysig hwn.

View full details