Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ar Fferm Sgubor Wen

Ar Fferm Sgubor Wen

Regular price £6.95 GBP
Regular price Sale price £6.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Saith o straeon gwreiddiol bywiog, llawn dychymyg am anifeiliaid fferm gan yr awdures boblogaidd Caryl Lewis. Addas i oedolion eu darllen gyda phlant o 2 oed i fyny, ac i blant hyd at 9 oed eu darllen ar eu pennau eu hunain. Darluniau gwreiddiol gwych gan Peter Stevenson.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Seven original and lively stories about farm animals by the popular author, Caryl Lewis. Suitable for adults when reading to two year-olds and older, and for children up to nine years old to read on their own. Fantastic original illustrations by Peter Stevenson.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742883
Gwales Code
gwales.com.9780860742883
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ar Fferm Sgubor Wen
Awdur / Author
Lewis, Caryl
Current Price ex VAT
£6.95
Current Price inc VAT
£6.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-05-24
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Darlunydd / Illustrator
Stevenson, Peter
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
64 pages
Size
200 × 260 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn Fferm Sgubor Wen fe gewch hanes nifer o anifeiliaid prysur fel Moc y Mochyn, Priglyn y Draenog, Carwyn y Ceiliog a nifer o rai eraill. Mae’r llyfr yn gasgliad o saith o straeon cyffrous ac anturus – mae llawer iawn yn digwydd ar fferm Sgubor Wen, a llwyddodd Caryl Lewis i greu cymeriadau deniadol a lliwgar. Yn y stori olaf yn y llyfr, cewch hanes yr iâr sydd yn fecanic penigamp. Llwyddodd yr iâr i greu tractor ffantastig a oedd hefyd yn gallu hedfan yn uchel. Rwy’n hoff iawn o’r stori hon oherwydd y mae anifeiliaid y fferm yn feirniadol iawn o Heti’r Iâr ar y dechrau, am nad yw’n hoffi dodwy wyau. Ond erbyn diwedd y stori, y maen nhw’n synnu at waith Heti. Mae’r ffermwr yn hapus hefyd gyda’i dractor prydferth a rhyfeddol. Stori arall yn y gyfrol yw stori am Mami a Dadi Cwningen yn methu ffeindio blanced i’r cwningod gysgu oddi tani dros y gaeaf. Ond mae Mami Llygoden yn eu helpu drwy guddio hancesi yn yr ardd ac mae Dadi a Mami Cwningen yn gwneud blanced o'r hancesi. Mae’r stori hon yn dda oherwydd rydw i’n hoffi’r syniad o’r cwningod yn ffeindio pob math o hancesi prydferth a meddal yn yr ardd. Mae Mami a Dadi Cwningen wedi bod yn brysur iawn yn gwneud blanced feddal a chlyd i’r cwningod bach gael cysgu’n gynnes yn ystod y gaeaf. Dyma ddwy o fy hoff straeon yn y llyfr. Cefais flas ar y straeon i gyd oherwydd roedden nhw mor fywiog ac amrywiol. Mae fferm Sgubor Wen yn lle difyr a lliwgar, a byddai’n hwyl fawr ymweld â’r lle rywdro. Diolch i Caryl Lewis am y gyfrol.

View full details