Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Arhosfan Ym Mhen Draw'r Byd

Arhosfan Ym Mhen Draw'r Byd

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Wrth yr arhosfan bws, hanner ffordd rhwng ei gartref newydd a'i ysgol, mae Rhys yn digwydd dod ar draws yr union fan lle mae byd chwedlau a helyntion y byd go iawn yn cwrdd. Cowbois yn canu, creadur gwyrdd o'r cloddiau, y ferch gyflymaf ar ddwy olwyn, ymhlith eraill - a fydd y criw brith yma'n ddigon i'w achub rhag y gelyn peryclaf y gwyddon ni amdano?

Disgrifiad Saesneg / English Description

At the bus stop, halfway between his new home and school, Rhys has stumbled upon the spot where myth and real trouble get mixed up. Singing cowboys, green creatures from the hedge and the fastest girl on two wheels might not be enough to save him from the most dangerous enemy known to man.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781785622588
Gwales Code
gwales.com.9781785622588
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Arhosfan Ym Mhen Draw'r Byd
Awdur / Author
Anthony, Dan
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-05-13
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Translator
Kidd, Ioan
Darlunydd / Illustrator
Aaron, Huw
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
184 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yr hyn sy’n taro rhywun ar unwaith am y gyfrol hon yw’r clawr deniadol. Mae yma grafanc enfawr du fel pe’n anelu at fachgen sy’n eistedd mewn arhosfan bws, tra bo degau o barau o lygaid yn gwylio o’r cysgodion. Mae’r darlun, ynghyd â’r teitl anarferol – Arhosfan ym Mhen Draw’r Byd – yn denu sylw unrhyw ddarllenydd sy’n chwilio am stori unigryw ac annisgwyl. Ni chaiff darllenydd o’r fath ei siomi! Cawn ein cyflwyno i fachgen ifanc o’r enw Rhys, sy’n byw gerllaw’r arhosfan bws gyda’i dad, Siôn, sy’n methu â gweithio oherwydd anabledd. Mae Rhys yn gymeriad hoffus, ond nid yw’n cael llawer o fwynhad o fywyd ar hyn o bryd – mae’n cael trafferth darllen, nid yw’n adnabod llawer o bobl, ac mae pawb yn chwerthin ar ei ben yn yr ysgol. Mae Rhys yn teimlo’n arbennig – ond arbennig o anobeithiol yw hynny, gan ei fod yn arbennig o dda am wneud pethau’n anghywir. Ond, daw tro ar fyd gyda dyfodiad cyfres o ddieithriaid i’r dref a’r ardal gyfagos, ac yn benodol i’r arhosfan! Gydag ymddangosiad llond llaw o gymeriadau unigryw a rhyfedd, mae bywyd Rhys yn datblygu’n fywyd diddorol tu hwnt! Dywedir wrtho fod ganddo bwerau arbennig, sef y gallu i weld bydoedd eraill – bydoedd sy’n bodoli yn yr un gofod â’r dimensiwn dynol. Ni all Rhys gredu ei glustiau, ond mae’n gwybod fod rhywbeth rhyfeddol ar droed pan mae’n cyfarfod cymeriadau mor amrywiol â Doc Penfro a Kid Welly – sy’n gwisgo fel cowbois; Mrs Prydderch a Rhiannon, sy’n ymhel â dewiniaeth ddu gwrachod; Beth, y ddraig sy’n groes rhwng Lamborghini a roced; dyn bach gwyrdd o’r enw Wdig; y Wraig Wlanog; dafad ddu o’r enw Dafi; ellyllon; coblynnod; ysbrydion; a brân fusneslyd! O fewn cloriau’r gyfrol hon, cewch fynd ar antur dra gwahanol – i fyd ffantasi a mytholeg – ymysg cymysgedd o gymeriadau a digwyddiadau difyr a gwallgof. Mae yma hud a lledrith, gyda’r cwbl yn canolbwyntio ar bŵer honedig carreg arbennig. Mae’r awdur yn llwyddo i ddal sylw’r darllenydd hyd y diwedd, gan gadw’r datgeliad am ddirgelwch y garreg a’r holl gymeriadau rhyfedd nes y tudalennau olaf. Dyma stori llawn cyffro a dirgel, gyda’r arddull ysgrifennu’n caniatáu i’r stori lifo’n gyflym o bennod i bennod – y llinyn storïol yw elfen gryfaf y nofel. Nid eir i fanylder gyda’r disgrifiadau – sy’n caniatáu rhyddid i ddychymyg y darllenydd – tra bo’r darluniau difyr hwnt ac yma’n cynorthwyo’r dychymyg. Os ydych am ddianc i fyd anturus, llawn dirgel a ffantasi, bachwch y gyfrol hon.

View full details