Cyngor Llyfrau Cymru
Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da
Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Y diweddaraf yng nghyfres boblogaidd Atgofion drwy Ganeuon , Gwasg Carreg Gwalch. Cawn ddilyn yn ôl troed y gyfres hon gan ganfod goleuni ar gynnyrch ac awen y canwr a'r cyfansoddwr unigryw, Delwyn Siôn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
In this, the latest title in the popular series Atgofion drwy Ganeuon , we gain an insight into the life, music and muse of a unique singer and composer - Delwyn Siôn.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845277000
- Gwales Code
- gwales.com.9781845277000
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da
- Awdur / Author
- Siôn, Delwyn
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-08-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 148 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
‘Pe bawn i’n gallu dweud wrth Dat-cu ...’ Dyna linell gyntaf y garol ‘Un Seren’. A dyna le da i ddechrau ar daith atgofion y gyfrol hon gan Delwyn Siôn. Yn ei eiriau ei hun, ‘“Bûm yn hir yn sad gysidro,” medd yr hen bennill. Ac yn wir i chi, dyna oedd fy hanes wrth ystyried ysgrifennu’r llyfr hwn. Gwrthod y cynnig wnes i’n wreiddiol, ond yna mi gytunais, a hynny, yn fwy na dim, er mwyn cael rhoi peth o hanes fy nheulu ar gof a chadw.’ Cawn, cawn fwy o hanes ‘Dat-cu’ a llawer mwy o'i deulu yn ‘Sweet 'Berdâr’ a Chwm Nedd, o'i gefnder enwog i'w gyfeillion ysgol, myfyrwyr Aber, Hergest, Omega a Mynediad am Ddim, criw Theatr Genedlaethol yr Urdd a helyntion amrywiol Côr Aelwyd Cwm-Rhyd-y-Chwadods! Mae yna eiliadau doniol ac eiliadau trist, a thrwy'r cyfan, mae cynhesrwydd yn y cariad sydd yma at ei fro ac at sawl cenhedlaeth o’i deulu. Mi gawn gofio eto am gyfoeth y cwm a’r colier, y caledi a’r canu, ‘Gyda mwgyn a mwffler a mynyffarni … Felly, diolch am rannu’r daith, Delwyn – mi roedden nhw’n ‘ddyddie da’.
Share
