Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Awr y Locustiaid

Awr y Locustiaid

Regular price £7.95 GBP
Regular price Sale price £7.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad o storïau byrion gan enillydd Medal Ryddiaith 2006, Fflur Dafydd. O'r Cymreig i'r Ewropeaidd, ac o'r dychanol i'r myfyriol, dyma gasgliad fydd yn swyno'r darllenydd, ond hefyd yn ei herio i lenwi ambell fwlch drosto'i hun.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of short stories by Fflur Dafydd, winner of the National Eisteddfod Prose Medal in 2006. From the Welsh to the European, and the satirical to the contemplative, this is a collection that will captivate readers, but will also challenge them to fill in some of the gaps for themselves.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780862439828
Gwales Code
gwales.com.9780862439828
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Awr y Locustiaid
Awdur / Author
Dafydd, Fflur
Current Price ex VAT
£7.95
Current Price inc VAT
£7.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-11-24
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
129 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn aml, ac yn gwbl gyfeiliornus, ystyrir y stori fer yng Nghymru fel chwaer fach i’r nofel. Gallaf ddychmygu ambell ddarpar awdur, fi yn eu plith, yn dweud wrtho’i hun, ‘Mae gen i syniad da, ond dyw e ddim digon hir i fod yn nofel. Fe gaiff, felly, fod yn stori fer.’ Na, nid ei hyd na’i byrdra sy’n diffinio stori fer. Mae hi’n ffurf lenyddol gwbl ar wahân. A mentraf ddweud ei bod hi hefyd yn ffurf fwy anodd na’r nofel o’i chyflawni’n llwyddiannus. Gellid, hwyrach, gymharu nofel â stori fer fel cymharu ffilm â ffotograff. Cawn y naill ar draws cynfas eang, ond y llall yn giplun. Ond yn hytrach na dadansoddi hanfodion stori fer, mae yna ddull llawer haws i ddarllenydd weld drosto’i hun ganlyniad meistroli’r dull llenyddol unigryw hwn. Darllenwch Awr y Locustiaid . Fedra’i ddim dychmygu gwers well. Mae broliant twt Bobi Jones yn bwrw'r hoelen ar ei phen: ‘Mae hi’n cydio mewn brawddeg, ac yn ei thaflu’n delyneg i’r awyr. Ac mae’n hedfan. Wow!’ Ceir yma naw stori, pob un yn amrywio, pob un yn wahanol, pob un yn adlewyrchu dawn dweud ryfeddol awdures ifanc sy’n ddewines geiriau. Mae hi’n llwyddo i glymu a phlethu geiriau a brawddegau gan greu campweithiau. Eto i gyd, maen nhw’n disgyn yn naturiol i’w lle heb unrhyw ymgais i wneud strôc na bod yn glyfar. Dyma adlais o’r gyfres deledu wych honno Tales of the Unexpected , ond bod y rhain yn fwy crefftus. O’r frawddeg agoriadol, mae’r stori gyntaf yn eich taro a’ch goglais ar yr un pryd gyda’i hiwmor du. Yn ‘Gwaed’ mae’r weithred syml o roi cyflenwad o’i waed yn troi’n hunllef i’r rhoddwr. Yn Awr y Locustiaid mae’r parchusion yn cuddio dan gochl chwilod salw. Yn fy hoff stori o’r gyfrol, ‘Mis Mêl’, mae llefarydd y stori yn dysgu gwenyn i ddial ar ei gŵr dideimlad, di-serch. Ac mae’r defnydd o amser yn y stori olaf yn rhyfeddol, lle mae awdur preswyl yn Helsinki/ Helsingfors yn edrych ymlaen at gael ystyr i'w bywyd mewn presennol sydd eisoes yn y dyfodol. Mae’r naw stori yn talu’n llawn am eu lle. Ynddynt, mae popeth ac unrhyw beth yn bosibl. Ynddynt mae’r anghyffredin yn gwbl normal, yr egsentric yn gwbl resymol a’r absẃrd yn gwbl resymegol. Dyma, yn wir, berl o gyfrol gan un o’n hawduron mwyaf cyffrous.

View full details