Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Beibl Ar... Ferched, Y

Beibl Ar... Ferched, Y

Regular price £3.99 GBP
Regular price Sale price £3.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Yn y gyfrol hon mae Arfon Jones yn ceisio dangos beth yn union mae'r Beibl yn ei ddweud am ferched, a sut y gellir deall a dehongli rhai gosodiadau 'anodd' yng ngoleuni'r cyd-destun gwreiddiol. Dengys sut y cafodd ystyron rhai geiriau Hebraeg a Groeg eu camddeall a'u camddefnyddio.

Disgrifiad Saesneg / English Description

In this volume, Arfon Jones attempts to reveal what exactly the Bible says about women, and how some 'difficult' statements may be understood and interpreted. He shows how some Hebrew and Greek words have been misunderstood and misused.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781859949016
Gwales Code
gwales.com.9781859949016
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Beibl Ar... Ferched, Y
Awdur / Author
Jones, Arfon
Current Price ex VAT
£3.99
Current Price inc VAT
£3.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-07-31
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau'r Gair
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
48 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Lleiafrif reit fychan o blith darllenwyr Cymraeg sy’n malio ffeuen am beth y mae’r Beibl yn ei ddweud am ddim. Ymhlith credinwyr ceir amrywiaeth agweddau a chryn ddrwgdybiaeth rhwng ‘efengylwyr’ a ‘rhyddfrydwyr’. Fel y dywed Arfon Jones, awdur y llyfryn hwn: “ Y cwestiwn sylfaenol i’w ofyn ydy, sut mae dehongli’r Ysgrythur yn gywir? ” Mae’r awdur yn mynd ati i ymaflyd codwm â’r testunau hynny a ddefnyddiwyd dros y canrifoedd i gadarnhau agweddau patriarchaidd tuag at wragedd. Y mae gennym destunau o gyfnodau patriarchaidd, wedi’u hysgrifennu gan batriarchiaid, am batriarchiaid, wedi’u cyfieithu gan batriarchiaid i gymdeithasau hierarchaidd a phatriarchaidd. Ydi’r eglwysi drwy’r canrifoedd heb ddeall yn iawn beth oedd her chwyldroadol Iesu o Nasareth? Her, nid yn unig i’w gyfnod ond i’r canrifoedd a fu’n ystumio, yn camddehongli, ac yn batriarchaidd lynu wrth yr hyn a dybient oedd yn amlwg, bod Duw wedi bwriadu i wragedd fod am byth yn israddol a distaw, ac ufudd. Chwa o awel iach felly yw’r llyfryn bach hwn, nid yn unig i geidwadwyr sy’n glynu at beth a dybir yw ‘ystyr amlwg’ y testunau dadleuol, ond hefyd i batriarchiaid ‘rhyddfrydol’ sy’n gwadu’r hen ddehongliad heb gloddio’n ddyfnach. Y mae’r awdur, sy’n adnabyddus fel cyfieithydd y beibl.net ac sydd wedi gweithio’n ymroddedig dros fudiadau ‘efengylaidd’ eu hethos, yn barchus o’r testun ac yn radical ei ddehongliadau, gan ddod i’r casgliad bod her Iesu i’w ddilynwyr heb ei hwynebu gan yr eglwysi. Mae ei ddisgrifiadau o batriarchaeth yr Hen Destament yn ddeifiol; ei ddisgrifiadau o batriarchaeth Roegaidd a Rhufeinig yr un mor ddeifiol, a’i waith ieithyddol ar y testunau yn fywiog a darllenadwy. Trwy ei ddisgrifiadau gwelwn yn glir sut y bu i batriarchaeth ystumio a dofi neges y Testament Newydd a dangos hefyd sut y bu i natur iaith, a thueddiadau cyfieithwyr danseilio radicaliaeth y neges, yr Efengyl, y Newyddion Da. Mae pedair pennod y llyfryn (‘Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu’, ‘Iesu a Merched’, ‘Paul a’r apostolion’, ‘Lle’r ferch yn yr eglwys’) yn sail defnyddiol a deallus ar gyfer grwpiau trafod – a bydd y ceidwadwyr a’r ‘radicaliaid’ ar eu hennill o’u darllen er mor wahanol yw eu safbwyntiau cychwynnol. Mae’r hen agweddau gwryw nawddoglyd tuag at ferched yn peri embaras erbyn heddiw. Yma cawn weld bod y Beibl â neges fywiol, sail i berthynas newydd nad yw’n hanfodol ymosodol nac yn gwadu dadleuon me too . Gwyddom erbyn hyn bod rhychwant eang rhwng y ddau begwn gwryw a benyw – ond dyna destun llyfryn arall rywbryd yn y dyfodol!

View full details