Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Berfau - A Check-list of Welsh Verbs

Berfau - A Check-list of Welsh Verbs

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol ddwyieithog yn cynnwys rhediadau llawn dros fil o ferfau Cymraeg a fydd yn gaffaeliad i'r dysgwr a'r Cymro Cymraeg fel ei gilydd. Adargraffiad 2021; cyhoeddwyd gyntaf yn 1995.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A bilingual volume containing a comprehensive list of the inflected forms of Welsh verbs which will serve as a useful reference book for Welsh speakers and learners of the Welsh language. 2021 reprint; first published in 1995.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781859021385
Gwales Code
gwales.com.9781859021385
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Berfau - A Check-list of Welsh Verbs
Awdur / Author
Lewis, D. Geraint
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-12-09
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
230 pages
Size
208 × 145 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) gweler hefyd Dysgwyr (yn Gymraeg) | EN: Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh) see also Welsh Learners (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Iaith ac Ieithyddiaeth (yn Gymraeg) | EN: Language and Linguistics (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae teitl syml y llyfr hwn yn dangos yn union beth i’w ddisgwyl o fewn ei gloriau – ymdriniaeth fanwl â’r geiriau pwysig hynny, berfau. O gofio pa mor gymhleth yw’r berfau yn y Gymraeg, o gymharu â’r Saesneg dyweder, dyma lyfr i’w wir groesawu. Bydd y ‘Rhagymadrodd’ a’r cyfarwyddiadau sydd yn yr adran, ‘Sut i ddefnyddio’r llyfr hwn’, yn gymorth i’r darllenydd ddeall anawsterau’r system. Nid yw’r fformwla’n ymddangos hanner mor gymhleth o’i chyflwyno’n drefnus fel y gwna’r awdur. I allu rhedeg berfau Cymraeg yn gryno bydd angen gwybod beth yw’r terfyniadau ar gyfer y gwahanol amserau a’r gwahanol bersonau. Dangosir patrymau’r terfyniadau hyn yn glir ar ddechrau’r gyfrol a dyna ateb un o’r gofynion. Y cwestiwn mawr nesaf yw at beth i’w hychwanegu! Ceir yr ateb i hyn yn y rhestr gynhwysfawr o ferfau sy’n ymddangos yn nhrefn yr wyddor yn y gyfrol. Nodir bôn y ferf ym mhob achos yn ogystal â’r ystyr yn Saesneg. Felly, rhyw ychwanegu dau a dau a gwneud pedwar yw rhedeg berf! Nid felly’n union, gwaetha’r modd! Mae ymhlith berfau, fel ymhlith pobl, rai nad ydynt yn cydymffurfio! Mae Geraint Lewis, wrth gwrs, yn manylu ar y berfau afreolaidd eu bôn a’u rhediad fel mynd a dod , gwneud a bod . Yn achos y berfau lle y gall dyblu ‘n’ neu ‘r’ ar ddiwedd y goben ddrysu’r sillafu yn y rhediad, mae’n rhoi’r ffurfiau y dylid sylwi’n arbennig arnynt, er enghraifft, berfau fel cychwyn , cyrraedd , pennu a gyrru . Manylir hefyd ar rediad berfau cywasgedig fel y rhai sy’n diweddu yn hau , er enghraifft, parhau a mwynhau a’r rheini na welir ynddynt bellach ond olion yr hau hwnnw, er enghraifft, caniatáu a gwacáu . Ni soniais eto am agwedd ddwyieithog y gwaith. Is-deitl y llyfr yw A Check-list of Welsh Verbs ac mae’r rhagymadrodd, y cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddefnyddio’r llyfr, a’r nodiadau a welir yn y cefn yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mae’n sicr y bydd y gyfrol yn ganllaw anhepgor i ddysgwyr sydd wedi eu trwytho yn ffurfiau cwmpasog y ferf ond sy’n ddigon penderfynol i ddymuno croesi’r ffin a defnyddio’r ffurfiau cryno. Ni ddylid meddwl am funud mai canllaw i ddysgwyr yn unig yw’r gyfrol hon. Byddwn yn argymell Y Llyfr Berfau i bawb sy’n ymhél ag ysgrifennu’r Gymraeg gan mor gyfleus yw cydio ynddo i wirio ffurf ferfol benodol.

View full details