Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Blaidd wrth y Drws

Blaidd wrth y Drws

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae gan Dafydd a Helen ddau o blant, Magw a Pryderi. Un noson oer yn Ionawr mae'r ddau fach yn cysgu yn eu gwlâu pan ddaw rhywbeth dieflig drwy'r ffenest agored, bwystfil. Caiff Magw ei hanafu ac mae Pryderi'n gorwedd yn farw yn ei wely. Mae bywydau Dafydd a Helen yn cael eu troi wyneb i waered. Yng nghanol eu galar mae pob math o gyhuddiadau ac ensyniadau'n cael eu taflu tuag atynt.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Dafydd and Helen have two children, Magw and Pryderi. One cold January evening the two children are asleep in their beds... But something comes through the open window, a beast. Magw is injured and Pryderi lies dead in his bed. Dafydd and Helen's lives are turned upside down and in the midst of their grief all sorts of accusations and insinuations are thrown at them.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848512917
Gwales Code
gwales.com.9781848512917
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Blaidd wrth y Drws
Awdur / Author
James, Meleri Wyn
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-10-05
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
296 pages
Size
128 × 196 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

O ystyried pwnc dirdynnol nofel ddiweddaraf Meleri Wyn James – awdur sy’n fwyaf adnabyddus am ei llyfrau i blant a nofelau ysgafn i oedolion – nid yw’n syndod iddi ddisgrifio’r broses o’i hysgrifennu fel ‘marathon emosiynol’. Un noson hunllefus, mae bywyd Dafydd a Helen yn cael ei ddryllio’n llwyr yn dilyn ymosodiad ar eu plant yn eu gwlâu, gan adael y babi Magw ag anafiadau a’r bachgen bach Pryderi yn farw. Mae Dafydd yn cyrraedd mewn pryd i weld yr hyn sy’n ymdebygu i gath wyllt yn sgrialu allan o’r tŷ, gan blannu hedyn obsesiwn ynddo i ddal y bwystfil a phrofi i bawb ei fod yn bodoli. Wrth gwrs, fel sy’n digwydd mewn causes célèbres fel diflaniad Madeleine McCann neu achos y babi a laddwyd gan ddingo yn Awstralia (gan ysbrydoli The Cry gan Helen FitzGerald), mae yna ddigon o bobol sy’n amau’r rhieni, fel y gwelir yn y negeseuon maleisus ar Twitter ac erthyglau yn y wasg sy’n holi ‘Beth os?’. Bwrir amheuaeth hyd yn oed ar Mew, eu cath anwes. Er hynny, mae’r heddlu yn gefnogol i’r rhieni, yn enwedig DI Clive Edmonds, a datgelir y rheswm dros ei gydymdeimlad ef maes o law. Hefyd yn gefn i’r cwpwl y mae rhieni Dafydd; Ner, ffrind llwynogaidd Helen; a Jon, y cymydog busneslyd a’i berwylion vigilante -aidd. Ond Dafydd, yn ddi-os, yw’r prif gymeriad, gan mai o’i safbwynt ef y mae’r nofel yn bennaf (er nad yw wedi ei hysgrifennu yn y person cyntaf). Y gŵr a’r tad cariadus sy’n gweithio’n ddi-baid i gynnal ei deulu gan deimlo’n euog nad yw’n gweld digon arnynt, ac eto’n rhyfeddol o ddigydwybod ynglŷn â rhai o’i gamweddau go iawn. Yn dilyn tro ar fyd (pan ddaw arwyddocâd y prolog iasol i’r amlwg), mae Helen yn cilio fwyfwy i’w chragen, tra bod Dafydd yn taflu’i hun, nid yn unig i’r gwaith corfforol galed o greu cartref newydd iddynt, ond i’w gynllun gorffwyll ‘i ddal y creadur ... a geisiodd eu dinistrio’. Dyma nofel sy’n perthyn i’r un genre – sef domestic noir – â The Cry , er ei bod yn gwbwl Gymreig o ran cefndir a bywydau ei chymeriadau a’r hanesion a glywyd dros y blynyddoedd am gathod mawr gwyllt yn crwydro cefn gwlad Cymru. Mae’n stori ddirgelwch sydd hefyd yn ymdriniaeth graff ac ysgytwol â pherthynas cwpwl mewn galar ac o dan straen eithafol yn adladd trasiedi ddychrynllyd. Hawdd credu iddi fod yn nofel anodd ei hysgrifennu oherwydd y testun emosiynol ddyrys, ond o ran ei darllen roedd hi’n anodd iawn i'w rhoi o'r neilltu.

View full details