Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Blas ar y Beibl

Blas ar y Beibl

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Llawlyfr i ieuenctid hŷn ac oedolion yn rhoi cyflwyniad hwyliog i holl gynnwys y Beibl. Addasiad Cymraeg o Bible from Scratch .

Disgrifiad Saesneg / English Description

For all who find the Bible a bit daunting, this could be just what's needed. It offers a lightning sketch of the Bible using easy-to-follow graphics and explains clearly and simply the essential meaning of every Bible book. A Welsh adaption of Bible from Scratch .

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781859948408
Gwales Code
gwales.com.9781859948408
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Blas ar y Beibl
Awdur / Author
Jenkins, Simon
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-03-29
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau'r Gair
Translator
Huws, Eleri
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
256 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Llyfr wedi ei wasgu i’r ymylon â hanes a ffeithiau am y Beibl yw hwn. Cyflwynir hanes y cyfnodau gwahanol yr ysgrifenwyd llyfrau'r Beibl ynddo yn gryno ond yn gynhwysfawr, ac eglurir sut y daeth yr awduron a’u geiriau at ei gilydd i greu'r Beibl. Rhoddir lle dyledus i’r prif gymeriadau a chawn ein harwain drwy ddigwyddiadau a themâu pwysicaf y Beibl. Mae pob un llyfr yn cael sylw unigol, gyda chyflwyniad hynod gynhwysfawr i’r Hen Destament a’r Testament Newydd. Trafodir y Beibl yn nhrefn y llyfrau, yna ceir adran fer ond pwysig ar yr Apocryffa dan y pennawd 'Dadleuol'! Sut ar y ddaear y llwyddwyd i gynnwys cymaint mewn 255 tudalen? Wn i ddim, ond mae Simon Jenkins wedi llwyddo i wneud hynny. Ond yn bwysicach fyth, sut y llwyddodd i wneud hynny mewn ffordd mor hwyliog a diddorol? Oherwydd nid awdur yn unig yw Simon Jenkins, ond darlunydd hefyd, ac mae’r darluniau bach quirky a’r deiagramau effeithiol yn dod â sawl agwedd ‘anodd’ o’r Beibl yn fyw. Ceir tablau diddorol hefyd, fel 'Ble mae’r Ddameg?' sy’n nodi’r damhegion a lle i gael hyd iddyn nhw yn y gwahanol Efengylau. Ar ddechrau’r llyfr hefyd ceir cynllun darllen y Beibl mewn 30 diwrnod, sy’n adnodd gwych i unrhyw un sydd am ei ddarllen ond yn ansicr sut i fynd ati. Mae hiwmor yr awdur hefyd yn ychwanegu at y gyfrol ac mi fydd yn bendant yn apelio at y rhai yn eu harddegau (a'r rhai hŷn, fel fi!). Ar ddechrau ei gyflwyniad i’r Hen Destament cawn ddarlun o swyddog P.R. wrth ei ddesg yn dweud: 'Ydy, mae ‘Hen’ yn rhy negyddol. Beth am Y Testament Hŷn neu Y Testament Llai ifanc?' Ac yn ei gyflwyniad i’r Testament Newydd cawn ddarlun traddodiadol ei naws o’r geni, gyda swigod siarad y gwŷr doeth yn nodi: 'Fe ddown ag aur a thus ... a thedi bêr!' Yn ogystal â chyflwyno ffeithiau a stori’r Beibl mae Jenkins hefyd yn cyflwyno agweddau gwahanol o draddodiadau Cristnogol amrywiol. Mae hefyd yn trafod yn fyr pedwar prif safbwynt ar ysbrydoliaeth y Beibl ac yn gwneud hynny yn deg. Peidiwch â disgwyl i Simon Jenkins eich arwain ar sut i feddwl neu beth i’w gredu, a hynny yn y bôn ydy un o brif rinweddau’r llyfr i mi. Mae’n gwbwl wrthrychol, er ei fod yn nodi yn amlwg yn ei gyflwyniad i’r llyfr fod ei brofiad cyntaf o ddarllen y Beibl – Efengyl Ioan yn benodol – wedi golygu iddo ‘gyfarfod â Iesu drosof fy hun’. O'i ddiwyg, gellid cymryd yn ganiataol mai llyfr i bobl ifanc ydy hwn, ond byddwn yn annog oedolion sydd am wybod mwy am y Beibl hefyd i’w ddarllen. Byddai’n adnodd gwych yn unrhyw adran addysg grefyddol mewn ysgol neu yn yr ysgol Sul, ond mae hefyd yn gyfrol ddefnyddiol i'w chael ar y silff gartref i unrhyw un sydd am wybod mwy am y llyfr enwocaf erioed!

View full details