Cyngor Llyfrau Cymru
Blwyddyn o Siwrnai
Blwyddyn o Siwrnai
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Hanes Rhys Gruffydd, o Dregraig yn Arfon, ydi cnewyllyn y stori, a'r hyn sy'n digwydd wedi iddo dderbyn swydd gyda chwmni newydd, uchelgeisiol, 'Cwmpas Cymru', sydd â'i fryd ar adfywio economi Cymru adeg dirwasgiad yr 1980au. Ond buan y daw'n amlwg bod gelynion dienw am danseilio'r cynllun a difetha gwaith Cwmpas Cymru; ac mae'r trafferthion yn bygwth diogelwch y cyhoedd a Rhys a'i dîm...
Disgrifiad Saesneg / English Description
The story of Rhys Gruffydd, from Tregraig in Arfon, and what happens after he accepts a job with a new, ambitious company, 'Cwmpas Cymru', which aims to revive the Welsh economy during the recession of the 1980s. But it soon becomes clear that nameless enemies want to undermine the plan and ruin the work of Cwmpas Cymru; and the troubles threatens the safety of the public, Rhys and his team...
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800998384
- Gwales Code
- gwales.com.9781800998384
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Blwyddyn o Siwrnai
- Awdur / Author
- Morris, Bob
- Current Price ex VAT
- £11.99
- Current Price inc VAT
- £11.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-03-23
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 304 pages
- Size
- 130 × 195 mm; depth 15 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C020637
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Ganed Bob Morris yn 1946 ac fe’i magwyd yn nhref Pwllheli, gan fynychu’r Ysgol Ramadeg, ac yna graddio o Goleg y Brifysgol Bangor. Trwy’r 1970au bu’n athro Hanes yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, ac yn Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn. Gweithiodd fel Swyddog Hanes ar Brosiect i gynhyrchu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgu Hanes mewn ysgolion uwchradd – deunydd a gyhoeddwyd, yn ei dro, gan Wasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, a Chanolfan Adnoddau Addysg, Aberystwyth. Awdurodd 28 o deitlau yng nghyfres y Prosiect. Bu’n Uwch-Ddarlithydd yn y Coleg Normal, Bangor o 1988 i 1996 ac yna’n Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor o 1996 tan 2006, yn cynnwys tair blynedd fel Deon y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithas. Ers hynny bu’n diwtor rhan-amser i ddosbarthiadau Hanes ar gyfer oedolion. Ers 1983 mae wedi bod yn darlledu’n achlysurol ar bynciau hanesyddol ar Radio Cymru, gydag ambell gyfraniad i raglenni teledu.
Share
