Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai

Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai

Regular price £7.95 GBP
Regular price Sale price £7.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Llyfr byrlymus yn tynnu ar brofiadau Angharad Tomos a'i theulu ynghylch sut i fyw bywyd llai gwastraffus. Os ydych chi wastad â chant a mil o bethau i'w gwneud, yn dyheu am fywyd symlach i chi a'ch teulu, yn ysu am gael rhyw eiliad neu ddau i chi'ch hun, dyma'r union lyfr rydych wedi bod yn chwilio amdano.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A book that documents the experiences of the author Angharad Tomos in her quest to live a more green and less wasteful life. If you are one of those people who always has a thousand things on the go, do you long for a simpler life for you and you're family or maybe you want a few quiet moments to yourself? If so this is the book for you.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742746
Gwales Code
gwales.com.9780860742746
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai
Awdur / Author
Tomos, Angharad
Current Price ex VAT
£7.95
Current Price inc VAT
£7.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-10-26
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
60 pages
Size
200 × 200 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Natur, Daearyddiaeth, Daeareg (yn Gymraeg) | EN: Nature Studies, Geography, Geology (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Yr Amgylchedd (yn Gymraeg) | EN: The Environment (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cyfrol hunangymorth yw Bodlon , epil y gyfrol Self-Help gan Samuel Smiles (1859), y gwaith Fictoraidd hwnnw a lwyddodd i ennill cornel arbenigol a phroffidiol o’r farchnad lyfrau iddo’i hun. Diben cyfrolau o’r fath yw hyfforddi’r darllenydd i gyflawni rhyw nod drwy sylwi ar ddiffygion personol ac ymdrechu i’w cyfnewid am arferion da. Pwrpas Bodlon yw ein helpu i ddefnyddio’n hamser yn well, a gwella’n defnydd o adnoddau’r ddaear. Dylem fwyta’n iach – bwyd lleol, llysieuol gan mwyaf, a pheidio â bod yn rhy farus. Dylem gerdded i bobman sy’n llai na milltir o bellter, beicio i bobman sy’n nes na phedair milltir, a gofalu bod o leiaf un diwrnod yr wythnos yn ddiwrnod di-gar. Dylem ddefnyddio hancesi go iawn yn lle hancesi papur, a defnyddio pin dur a photel inc yn lle beiros a ffelt tips sydd wedi’u gwneud o blastig. Yn lle mynd i’r dre i siopa ar fore Sadwrn awgrymir ein bod ni’n aros gartref i wnïo, garddio, coginio, a mynd â’r ci am dro. Proc i gydwybod yw’r gyfrol hon. Ar sail y dylunio ceir yr argraff gamarweiniol mai cyfrol ysgafn yw hon – cyfrol i blant, o bosib. Mae golwg ifanc, brysur iddi, gyda’i chymysgedd o ffotograff a chartŵn, rhai yn well ac yn gryfach na’i gilydd. Er bod y tudalennau wedi’u gosod yn ddeniadol i’r llygad, nid yw pob tudalen yn gyfforddus i’r llygad. Mae un ffont sy’n annifyr i’w darllen, sef y ffont sy’n agor y gyfrol drwy adrodd stori’r pysgotwr. Ond mae gafael braf i’r papur, a’r teimlad yn gyfforddus i’r llaw. Rhestrwyd nifer helaeth o gynghorion da yn y gyfrol hon y byddai’n talu ffordd inni eu dilyn. Efallai na fydd pob un yn dymuno gwella ei fywyd yn yr union ddull a modd hwn, ond mae Bodlon yn fan cychwyn ardderchog i ni ystyried ein dulliau ein hunain o barchu amser, a’r byd o’n cwmpas.

View full details