Cyngor Llyfrau Cymru
Bro a Bywyd: Dic Jones
Bro a Bywyd: Dic Jones
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Portread darluniadol cynhwysfawr o fywyd a bro'r bardd Dic Jones ei achau a'i deulu, y dylanwadau lleol arno, ei amaethu a'i ganu, ei lenydda a'i gymdeithasu. Llyfr llawn ffotograffau, nifer ohonynt yn rhai lliw.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A comprehensive photographic portrayal of the life and locality of the poet Dic Jones, his early and later family life and the local influences on his life and work. A volume which is full of photographs, many of then in colour.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781906396411
- Gwales Code
- gwales.com.9781906396411
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Bro a Bywyd: Dic Jones
- Awdur / Author
- Barddas, Cyhoeddiadau
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2012-07-04
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Barddas
- Editor
- Davies, Dai Rees
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 96 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Ers marw'r Prifardd Dic Jones dair blynedd yn ôl, ac yntau ar y pryd yn Archdderwydd, mae yna lawer o gyfrolau wedi’u cyhoeddi i gofio amdano. Casgliadau o'i gerddi penigamp yw nifer ohonynt, ond y tro hwn, cawsom gan Barddas gyfrol o luniau a nodiadau, yngyhyd â rhai cerddi, sy’n crynhoi cerrig milltir bywyd Dic, a'r cyfan wedi’i gywain yn gelfydd gan Dai Rees Davies. Rhennir y gyfrol yn adrannau – lluniau teulu bore oes, hanes Aelwyd yr Urdd Aberporth, hanes Dic a Siân a’r teulu, Dic yr amaethwr, Dic y cerddor, Dic y llenor, Dic yr actor a’r cymdeithaswr, Dic yr Archdderwydd, ac yn olaf, atgofion amdano. Mae yma stôr o luniau difyr, rhai’n cofnodi tristwch, eraill yn cofnodi llawenydd. Pennod hynod drist i’r teulu fu colli Esyllt, gefell Tristan, ac y mae’r alarnad a gofnodir yma (ac mewn cyfrolau eraill) yn dorcalonnus: Dygwyd ein Esyllt egwan, – mam na chaiff Mwy na chôl na chusan, Beth sy’n fwy trist na Thristan Yn ceisio cysuro Siân? Mae ’na luniau eraill a nodiadau digon difyr ynghlwm wrthynt. Dyma’r un, er enghraifft, am bedwarawd SATB Aber-porth yn canu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abergwaun, a Dic yn aelod o’r pedwarawd. Mae’n debyg i’r gynulleidfa wirioni ar harmoni’r pedwar llais, a disgrifiodd y beirniad eu perfformiad fel un perffaith! Difyr, hefyd, yw gweld a darllen am chwiorydd Dic a'i ddiweddar frawd, ac am Dic yr actor – hanes na wyddwn i ddim amdano! Mae yma wybodaeth hynod ddifyr yn y gyfrol hon. Ydi, mae’r llyfr wedi’i rannu yn adrannau ond mae nifer fawr ohonynt yn gorgyffwrdd, fel elfennau o fywyd Dic ei hun. Dyma lyfr bwrdd coffi go iawn, a chyfrol sy’n wledd i’r glust a’r llygad.
Share
