Cyngor Llyfrau Cymru
Bro a Bywyd: Kyffin Williams - His Life, his Land
Bro a Bywyd: Kyffin Williams - His Life, his Land
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyhoeddir yr argraffiad newydd hwn o'r gyfrol ddarluniadol hynod boblogaidd hon yn y gyfres 'Bro a Bywyd' i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Kyffin Williams - portread didwyll gweledol ac ysgrifenedig o'r arlunydd ysbrydoledig. 'Teyrnged yw'r llyfr hwn i gyfaill, i ddyn annwyl, i Gymro glew, i ŵr ffraeth llawn hiwmor ac i grefftwr na welir ei debyg.' (David Meredith).
Disgrifiad Saesneg / English Description
This new edition of the extremely popular illustrated volume in the 'Bro a Bywyd' series is published to coincide with the centenary of Kyffin Williams' birth - a sincere portrait in words and pictures of the inspired artist. ISBN of first edition: 9781906396046
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781911584087
- Gwales Code
- gwales.com.9781911584087
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Bro a Bywyd: Kyffin Williams - His Life, his Land
- Awdur / Author
- Barddas, Cyhoeddiadau
- Current Price ex VAT
- £15.95
- Current Price inc VAT
- £15.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-02-16
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Barddas
- Editor
- Meredith, David
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 168 pages
- Size
- 240 × 185 mm
- Language Code
- Welsh; English
- Categori / Category
- CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Rhagair Y Cyfnod Cynnar Ysgol Amwythig I'r Fyddin I'r Coleg, i'r Slade Ysbrydoliaeth I'r Cyfandir - paentio dramor Athro yn Ysgol Highgate, Llundain Patagonia Hafan Kyffin, Pwllfanogl Kyffin a'r Oriel Ei Sir Fon, Dirion Dir Kyffin y cartwnydd Cynlluniau Kyffin a'i ddylanwad Kyffin yr Ysbrydolwr a'r Portreadwr Kyffin a'r Gymraeg Anrhydeddau Ar dan dros y Celfyddydau Amgueddfeydd ac Orielau Dathlu'r Wyth Deg Concro Fenis Y Cambrian
Cynnwys / Table of Contents
Foreword Early Times Shrewsbury School Joining the Army To College, To the Slade Inspiration To the Continent - painting abroad Teacher at Highgate School, London Patagonia Kyffin's Haven, Pwllfanogl Kyffin and Oriel Mon His Beloved Anglesey Kyffin the Cartoonist Kyffin's designs and influence Kyffin, an Inspiration and Portrait Artist Kyffin and the Welsh Language Honours Supporting the Arts Museums and Galleries Celebrating his Eightieth Birthday Conquering Venice Y Cambrian
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
David Meredith yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams, ac esgorodd ei gyfeillgarwch a'r arlunydd enwog ar gyfrolau nodedig amdano, yn cynnwys y bywgraffiad dwyieithog Obsesed ar y cyd a John Smith (Gomer, 2012) a Golau ar y Gamlas/ Drawn to the Light (Kyffin Williams yn Fenis) (Cyngor Sir Ynys Mon, 2013).
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
David Meredith is Chair of The Sir Kiffin Williams Trust, and his longstading friendship with the famous artist has lead to notable publications, including a bilingual biography, Obsessed which he wrote with John Smimth (Gomer, 2012) and Golau ar y Gamlas/ Drawn to the Light (Kyffin Williams in Venice) (Anglesey County Council, 2013)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Rhif ISBN yr argraffiad gwreiddiol: 9781906396046 'Gwyliwr ar y tŵr oedd Kyffin Williams, neu John Kyffin Williams, neu Syr Kyffin, neu fel yr hoffai i bobl gyfeirio ato, Kyffin. Ie, gwyliwr ar y tŵr dros fuddiannau artistig gorau Cymru a byd Celf. Ef, yn ddiamau, oedd prif arlunydd Cymru, dyn a oedd ar dân dros ei alwedigaeth hunanddewisedig o fod yn arlunydd proffesiynol. Ni welodd Cymru artist mwy cynhyrchiol na mwy masnachol lwyddiannus na John Kyffin Williams. Etifeddodd gariad at bobl gan ei dad a’i gyndeidiau a chredai mai ei bortreadau oedd peth o’i waith gorau. Rhoddodd Gymru a’i phobl ar bedastl, canodd fawl i’r greadigaeth drwy ei waith ac ysbrydolodd ni oll. Fel Cymro gwerth ei halen, roedd yn falch o’i dras a’i gysylltiadau a’i wreiddiau dwfn yn Sir Fôn, yn ardal Llansilin ym Mhowys ac yng Ngheredigion. Er mai Cymru, yn rhostiroedd, tai annedd a ffermydd, mynyddoedd, llynnoedd, eglwysi, capeli, arfordiroedd a llechweddau ysgithrog oedd prif feysydd ei weithgarwch fel artist paentiadau tirwedd, bu hefyd yn gweithio yn Ne America a nifer o wledydd Ewrop.' (David Meredith, golygydd)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
'John Kyffin Williams was Wales' greatest artist. During the thirty five years that I knew him, he never ceased to amaze me with his perserverance, his determination and his discipline in his chosen profession of 'making a living by painting.' (David Meredith, editor)
Share
