Cyngor Llyfrau Cymru
Byd y Bêl Rygbi
Byd y Bêl Rygbi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr cwis yn llawn cwestiynau o bob math am rygbi. Cyfrol ddefnyddiol ar gyfer nosweithiau cwis mewn clwb neu gymdeithas. Dyma ail lyfr cwis Tomos Morse; cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf Pam, Pwy, Pryd a Ble? yn 2011.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A quiz book full of questions about rugby. This is Tomos Morse's second quiz book, following the success of Pam, Pwy, Pryd a Ble? in 2011.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848516595
- Gwales Code
- gwales.com.9781848516595
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Byd y Bêl Rygbi
- Awdur / Author
- Morse, Tomos
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2012-11-16
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 170 pages
- Size
- 110 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Diddordebau, Chwaraeon, Hamdden, Coginio (yn Gymraeg) | EN: Sport, Hobbies, Leisure, Cookery (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Diddordebau Hamdden Eraill (yn Gymraeg) | EN: Other Leisure Pursuits (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae amser maith ers imi fod mewn tîm cwis tafarn. Addunedais na wnawn i hynny byth eto ar ôl cael profiad digon annifyr. Fel hyn y bu, a medraf gofio’r cwestiwn yn iawn: ‘Beth yw gêm genedlaethol Gwlad Belg?’ ‘Gwrandwch, bois, rwy'n gwbod yr ateb,’ meddwn i. ‘Rasio colomennod.’ ‘Paid bod yn sofft,’ meddai’r capten, gan droi at aelod arall y tîm. ‘Pêl-droed? Rasio beics?’ Er fy mhrotestiadau, dyma’r ddau benbwl yn cytuno ar feicio a’r capten yn cynnig yr ateb hwnnw. ‘Anghywir,’ meddai’r holwr. ‘Rasio colomennod.’ Fu gen i ddim i’w ddweud wrth gwisiau ar ôl hynny. Wrth gwrs, dyw hynny ddim yn dweud na fedra i gael cymaint o hwyl ag unrhyw un gyda llyfr cwis sy’n llawn ffeithiau diddorol. Ac mae cyfrol Tomos Morse yn rhagorol. Mae ynddi hyd yn oed gwestiynau ac atebion yr wyf am fentro dadlau â hwy. Agorais y gyfrol fach hyfryd ar ddamwain ar dudalen 99. ‘Ar ôl i Barry John gael anaf yn y gêm rhwng yr Alban a Chymru yn 1971, pwy giciodd y trosiad a enillodd y gêm?’ John Taylor, wrth gwrs, gyda’i droed chwith – mae pawb yn cofio hynny. Ar y pryd nid oedd gan Gymru droswr cydnabyddedig – ar daith y Llewod i Seland Newydd y datblygodd Barry’n droswr di-feth. Mewn cwestiwn ar dudalen 120 nodir bod y bachwr Norman Gale wedi cicio gôl gosb yng ngêm 1967 yn erbyn Seland Newydd, er bod Barry John yn chwarae ac wedi cicio gôl adlam. Y drefn yn 1971 oedd fod Barry yn cymryd y ciciau ar ochr chwith y cae â’i droed dde; John Talyor yn cymryd y rhai o’r ochr dde â’i droed chwith a J. P. R. Williams yn ceisio cicio unrhyw beth o bellter oedd yn weddol syth. A dyma fi'n awr yn mynd i ysbryd byd y cwisiau. Mae yma gwestiynau ardderchog, er enghraifft, ‘Pwy gododd bêl-droed yn ei ddwylo a rhedeg gyda hi yn Ysgol Rygbi yn 1823?’ Y dewis a roddir yw William Webb Ellis, David Calcutta neu Mickey Steele Bodger! Ellis, wrth gwrs, ond mae cynnwys Steele Bodger yn eu plith yn ddoniol iawn. Rwy'n cofio Richard Burton yn dweud iddo chwarae yn ei erbyn yn Rhydychen – ‘he was like steel and he bodgered’. Beth am y cwestiwn hwn – pa focsiwr byd-enwog a ymladdodd yn erbyn Jack Matthews mewn gornest amatur yn Sain Tathan yn 1943? Rocky Marciano, wrth gwrs. Ond beth oedd llysenw Dr Jack, a fu farw yn 2012? The Iron Man. Wyddwn i ddim o hynny. Wn i ddim pa mor hir y parodd yr ornest chwaith, er bod gen i syniad iddi fynd am dair rownd. Cawn yma ffeithiau ardderchog, megis bod Elin Fflur yn perthyn i George North a bod tad-cu Justin Tipuric yn dod o Croatia. A beth am yr un am Gareth Edwards yn dal y record am y pysgodyn mwyaf a ddaliwyd erioed mewn pencampwriaeth bysgota ryngwladol? Os ydych chi’n dipyn o gwisfeistr, dyma lyfryn anhepgorol. Os ydych chi, fel fi, yn dwlu ar ffeithiau diddorol ac od ac yn mwynhau eu trafod, wel dyma jyst y peth i chi!
Share
