Cyngor Llyfrau Cymru
Camau Bach
Camau Bach
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Yn nofel gyntaf Luned mae cast o gymeriadau yn byw eu bywydau amrywiol dros gyfnod o flwyddyn mewn tref fach ddienw, rhywle ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Maer nofel yn plethu'r dwys a'r digri ac mae hiwmor a gobaith, ynghyd â chydymdeimlad dwfn at y cymeriadau, yn hydreiddio'r dweud.
Disgrifiad Saesneg / English Description
In Luned's first novel a cast of characters live their varied lives over the course of a year in a small unnamed town, somewhere on the border between England and Wales. The novel intertwines the profound and the humorous and humor and hope, together with a deep sympathy for the characters, permeate the telling.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800998285
- Gwales Code
- gwales.com.9781800998285
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Camau Bach
- Awdur / Author
- Aaron, Luned
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-03-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 144 pages
- Size
- 130 × 190 mm; depth 5 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
- FSC Status
- No FSC or PEFC logo/certification declared
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Luned Aaron yn awdur ac yn artist sy’n byw yng Nghaerdydd. Ar ddechrau ei gyrfa, enillodd y Fedal Ddrama deirgwaith yn Eisteddfod yr Urdd. Astudiodd gwrs ffilm yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Nenmarc cyn dychwelyd i Gymru a dechrau ysgrifennu ar gyfer y radio, y theatr a’r teledu. Enilllodd wobr Tir na n-Og 2017 am ei llyfr cyntaf i blant. Enillodd hi a’i gŵr, Huw Aaron, wobr Tir na n-Og a gwobr Llyfr y Flwyddyn (Categori Plant a Phobl Ifanc) am y gyfrol Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor yn 2023. Dyma ei hail gyfrol ar gyfer oedolion, yn dilyn cyhoeddi Porth yn 2023 a gafodd ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 2023.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Luned Aaron is a writer and artist who lives in Cardiff. At the beginning of her career, she won the Drama Medal three times at the Urdd Eisteddfod. She studied a film course at the European Film College in Denmark before returning to Wales and starting to write for radio, theater and television. She won the Tir na n-Og award in 2017 for her first children’s book. She and her husband, Huw Aaron, won the Tir na n-Og award and the Book of the Year award (Children and Young People Category) for the book Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor in 2023. This is her second book for adults, following the publication of Porth in 2023.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’r nofel yn dechrau wrth i ni gael ein cyflwyno i Siriol Haf; dynes breifat a dihyder yn ei thridegau sydd newydd lwyddo i brynu ei fflat fach ei hun a dianc o gartref gormesol ei rhieni gor warcheidiol. Tydi bywyd heb fod yn hawdd iddi, a hithau wedi profi siom gyrfaol a dyweddïad a ddaeth i ben disymwth. Pan fo hen ffrind ysgol yn gorfodi ei hun a’i theulu yn annisgwyl ar ei haelwyd newydd, daw Siriol i wynebu ei gorffennol a magu nerth annisgwyl. Ymysg y cymeriadau amrywiol, bydd adlonianwr plant aflwyddiannus, gwraig gyfoethog sy’n byw i’w thŷ, derbynnydd c’nesol y sba lleol, ffermwr alpacas sydd wedi ei ddadrithio gan fyd amaeth, tylinydd blinedig, dyn busnes sy’n dychwelyd o’r Amerig i fro ei febyd, athrawes sy’n teimlo pellter at ei merch sy’n ddylanwadydd Tik Tok a gwraig weddw sy’n gorfodi ei hun ar ei theulu prysur wrth symud i’w tref.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
The novel begins as we are introduced to Siriol Haf; a private and insecure woman in her thirties who has just managed to buy her own small flat and escape from the oppressive home of her over protective parents. Life has not been easy for her, and she has experienced career disappointment and an engagement that ended suddenly. When an old school friend unexpectedly forces herself and her family into her new home, Siriol comes to face her past and grows unexpected strength. Amongst the various characters there is a failed children’s entertainer, a rich woman who lives for her house, the receptionist at the local spa, an alpacas farmer who has become disillusioned with the world of agriculture, a tired massage therapist, a businessman who returns from America to his childhood home, a teacher who feels distanced from her daughter who is a Tik Tok influencer and a widow who forces herself on her busy family by moving to their town.
Share
