Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Camu'n Ôl a Storïau Eraill

Camu'n Ôl a Storïau Eraill

Regular price £15.00 GBP
Regular price Sale price £15.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Yn y gyfrol hon ceir 16 o straeon, amrywiol o ran hyd a dyfais. Canolbwynt y digwydd yw Cwmadda, ardal wledig, gyn-ddiwydiannol ar gwr Eryri. Oddi yno eir am dro i dref llawr gwlad, Aberadda a Chaeradda, weithiau cyn belled â Chaerdydd, Llundain a Ffrainc. Gwelir fod y straeon mewn amrywiol gyweiriau. Ond y prif gywair yw dychan.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Sixteen satirical stories located in the fictional village of Cwmadda, a rural, post-industrial area on the edge of Snowdonia.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780956651679
Gwales Code
gwales.com.9780956651679
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Camu'n Ôl a Storïau Eraill
Awdur / Author
Adda, Glyn
Current Price ex VAT
£15.00
Current Price inc VAT
£15.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-05-09
Cyhoeddwr / Publisher
Dalen Newydd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
400 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Prin iawn yw’r awduron sydd wedi gwneud i mi chwerthin yn uchel. Yn eu plith mae Wil Sam ac Eirwyn Pontsiân. At y rhain ychwanegwch Glyn Adda a’i gasgliad rhyfeddol o storïau byrion, Camu’n Ôl a Storïau Eraill . Do, fe wnes i chwerthin lond fy mol wrth ddarllen hanesion am yr anghydfod rhwng gwahanol drigolion Winllan Wen a Thyddyn Sais. A dyna i chi wedyn saga Pauline, y wraig drws nesa sy’n penderfynu dysgu Cymraeg. Dwy stori sy’n ddamhegion crwn a chryno. Mae’r un stori ar bymtheg sydd yn y casgliad i gyd yn berlau. Dyma waith awdur sy’n berchen ar lygaid craff, clustiau meinion a dychymyg sy’n drên. Mae dychan a hiwmor cynnil – ac weithiau dynerwch atgofus – yn rhedeg drwy’r cyfan. Ffugenw yw Glyn Adda, wrth gwrs, ar un o’n hieithyddion praffaf a phuraf. Dyma werslyfr i unrhyw awdur sydd am fynegi ei hun yn glir a diamwys. Gall ein harwain fesul cam tuag at uchafbwynt o chwerthin neu weithiau i ddyffryn o ddwyster. Ond y geiriau allweddol yw dychan ac eironi. A dydi’r dyfeisgarwch byth yn troi’n glyfrwch bas, byth yn troi’n gimics. Da yw cael storïau byr sy’n cyflawni'r hyn a nodir ar y tun. Maen nhw’n storïau. Maen nhw’n fyr. Ac yn rhedeg trwyddynt fel llythrennau drwy roc mae yma idiomau a phriod-ddulliau cyhyrog ac ysgytwol. Mae’r ieithwedd a’r gystrawen yn pefrio drwyddi draw, yn gadarn ond eto’n ystwyth. Y mae yma aml haenau, ac ambell ddolen sy’n ein clymu wrth ein gorffennol, yn hanesyddol a llenyddol. Cymerwch stori sydd ar ffurf sgript rhaglen radio debyg i Beti a’i Phobol . Mae’r gwestai’n gyn-awyrennwr a fu’n rhan o gyrch y Dambusters. Mae’n dod adre i wynebu bygythiad Awdurdod Dŵr Birmingham i foddi ei gwm genedigol. Mae’n llwyddo i atal y llanw, ond boddir y cwm wedyn gan y mewnlifiad. Enw’r stori yw ‘Dyddiau Olaf Derlwyn’. Enw’r awyrennwr yw Emlyn. Ie, dyfeisgarwch. Mae teitl y gyfrol yn llawn arwyddocâd. Weithiau, fel yn ‘Wythnos yng Nghymru Fu’ mae e’n arwyddocâd llythrennol. Felly hefyd y stori sy’n disgrifio’r cyfarfyddiad rhwng Ellis Wynne a Siôn Cent. Mae yma gamu’n ôl hefyd i asesu sefyllfa, fel yn ‘Pobl y Ffridd’ ac ‘Isio Mwy’. Ac mae storïau fel ‘Y Llwybrau Gynt’ a ‘Marion, Marian a Minnau’ yn gamu ’nôl hiraethus a thyner. Dyma gyfrol y talai i bob egin awdur – ac ambell un sydd wedi ymsefydlu hefyd – ei darllen. Mae’r Gymraeg yn llifo megis afon drwyddi a bu ei darllen yn bleser pur.

View full details