Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cawod Lwch

Cawod Lwch

Regular price £9.00 GBP
Regular price Sale price £9.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad newydd o farddoniaeth gan y bardd Rhys Iorwerth - cerddi'r tridegau, cerddi newid byd - sydd wedi dychwelyd i'w fro enedigol yng Nghaernarfon, wedi pymtheg mlynedd yng Nghaerdydd. 'Plethiad o'r heulog a'r drycinog, y dwys a'r ysgafn, y mawr a'r mân' sydd yma, gyda ffotograffau Geraint Thomas yn lliwio'r cyfan.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A new collection of the poetry of Rhys Iorwerth - poems formed after his return to his home town of Caernarfon following 15 years in Cardiff. The poems, illuminated with photography by Geraint Thomas, present a mix of the sunny and stormy, the lighthearted and profound.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845278045
Gwales Code
gwales.com.9781845278045
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cawod Lwch
Awdur / Author
Iorwerth, Rhys
Current Price ex VAT
£9.00
Current Price inc VAT
£9.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-11-24
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Darlunydd / Illustrator
Thomas, Geraint
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
122 pages
Size
138 × 215 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Geraint Thomas Ffotograffydd proffesiynol yn gweithio o'i oriel yn Stryd y Plas, Caernarfon ydi Geraint. Yno, mae'n arddangos amrywiaeth eang o'i dirluniau o Eryri a'r glannau. Ond mae'i gefndir ym maes ffilm a theledu yn ei arwain at hoffter o ddweud stori yn ei waith hefyd. Bydd yn canolbwyntio ar grisialu'r eiliad a'i rhoi ar gof a chadw. Oherwydd hynny, mae'i luniau’n cynnig eu llwybrau eu hunain ochr yn ochr â cherddi Rhys.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Saith mlynedd yn ôl, cyhoeddodd Rhys Iorwerth ei gyfrol gyntaf – Un Stribedyn Bach. Canu gŵr yn ei ugeiniau oedd y casgliad hwnnw. Bellach, wedi pymtheg mlynedd yn y brifddinas, mae wedi gadael Caerdydd ac wedi symud yn ôl i Gaernarfon, lle mae'n awdur ac yn gyfieithydd llawrydd. Mae hefyd wedi priodi a chael dau o blant. Dyma ddeunydd nifer o gerddi'r casgliad hwn – cerddi'r tridegau, cerddi newid byd. Mae'n gweld bod pethau wedi newid ar Gymru yn yr un cyfnod – mae'r cymunedau Cymraeg dan fwy o bwysau ac mae gwleidyddion Llundeinig a'r argyfwng hinsawdd yn rhoi min i’w linellau. Cafwyd cyfnod coffáu'r Rhyfel Mawr; gwelwyd twf enfawr mewn technoleg rithwir; digwyddodd Brexit a daeth pandemig. Dathlwyd heulwen yr Ewros yn 2016. Plethiad o'r personol a'r cymdeithasol sydd yn y cerddi hyn. Plethiad o'r heulog a'r drycinog, y dwys a'r ysgafn, y mawr a'r mân. Ym mhob cerdd ac ym mhob cywair, mae'r ddawn wedi'i hogi'n fain wrth i eiriau droi'n lluniau cofiadwy. Dyma bencerdd ar sawl mesur ac mae'r amrywiaeth sydd ganddo i'w gynnig yn dal hwyl, her a hagrwch ein dyddiau.

View full details