Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cerdded y Palmant Golau

Cerdded y Palmant Golau

Regular price £10.00 GBP
Regular price Sale price £10.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Llyfr lliw llawn sy'n gofnod difyr o fywyd a gwaith Harri Parri fel gweinidog mewn tair ardal.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Not a traditional autobiography but a fascinating look back at the life and work of the author as a minister in three different areas in Wales.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912173341
Gwales Code
gwales.com.9781912173341
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cerdded y Palmant Golau
Awdur / Author
Parri, Harri
Current Price ex VAT
£10.00
Current Price inc VAT
£10.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-05-04
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
224 pages
Size
170 × 200 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Pan ymunodd Harri Parri â’r weinidogaeth roedd yna 700 o weinidogion ar lyfrau’r enwad – ‘mwy o lygod, wir, nag oedd yna o dyllau,’ fel y dywed yr awdur yn ei ddull dihafal ei hun. Doedd y dyddiau llwm ar grefydd ddim cweit wedi cyrraedd cefn gwlad Cymru ar ddechrau’r 60au, er bod yna bryd hynny enghreifftiau o ddynion ifanc, disglair yn cefnu ar y weinidogaeth gan fynd i weithio yn y cyfryngau neu fel gweithwyr cymdeithasol ac athrawon ysgol. Arhosodd Harri Parri yn y pulpud, er na chyfyngodd ei genadwri i’r sêt fawr a’r capel. Aeth â’i neges allan i’r priffyrdd a’r caeau gan roi gwasanaeth i dair ardal yn arbennig – Uwchaled, Porthmadog a Chaernarfon. Ymddengys mai’r brif gŵyn yn ei erbyn ar y dechrau oedd ei fod yn edrych yn rhy ifanc. ‘Ieuenctid oedd fy mhechod,’ meddai mewn un man gan adleisio nofel enwog John Rowlands. Mae yna siopau llyfrau ail-law sy’n drwmlwythog o gofiannau a hunangofiannau gweinidogion. Llyfrau sychlyd iawn yr olwg ydynt fel arfer. Nid felly’r gyfrol hon sy’n llawn asbri ac yn adleisio ei theitl i’r dim. Mae pwyslais yr awdur bob amser ar y bobl y bu yn eu gwasanaethu yn hytrach nag arno ef ei hun, er, mae’n amlwg mai fo yw’r ysgogydd i lawer o’r gweithgarwch a ddisgrifir. Cyffyrddiad ysgafn sydd i’r hunangofiant drwyddo draw, nid nad oes yma ddifrifwch pwrpas yn sylfaen i’r cwbwl. Canolog i’r hanes yw’r pwyslais ar bobl ifanc gyda’r sôn am y grwpiau theatr a’r pasiantau lu. Ychwaneger at hyn y teithio a’r pererindota a’r holl waith a wnaed tros amrywiol achosion da, a’r cyfan yn cynnig darlun o fwrlwm rhyfeddol. I lawer, wrth gwrs, awdur yw Harri Parri, un a enillodd enwogrwydd am ei straeon byrion digri, er iddo ysgrifennu nifer o lyfrau dwysach. Er iddo gydnabod dylanwad Islwyn Ffowc Elis a’i hoffter o waith P. G. Wodehouse, nid yw’n barod i’w restru ei hun ymysg y ‘gwir lenorion’. Bu ei gyfraniad, fe gredaf, yn fwy nag a dybia. Dawn ac egni yr awdur sy’n gwneud hon yn gyfrol mor wefreiddiol i’w darllen. Mae’n gyfraniad pwysig iawn i hanes Cristnogaeth yng Nghymru tros y trigain mlynedd diwethaf ac yn her i’r sawl sy’n mynnu ein bod yn byw mewn oes ôl-Gristnogol.

View full details