Cyngor Llyfrau Cymru
Cerddi Ffiaidd
Cerddi Ffiaidd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Argraffiad newydd, diwygiedig o glasur mydr ac odl Roald Dahl sy'n ailadrodd chwe stori draddodiadol yn ei ddull doniol, hurt a haerllug dihafal ei hun. Bydd Sinderela, Jac a'r Goeden Ffa, Eira Wen, Nia Ben Aur, Hugan Fach Goch a'r Tri Mochyn Bach byth yr un peth eto!
Disgrifiad Saesneg / English Description
A brilliant adaptation, by Gwynne Williams, of Roald Dahl's irreverent and hilarious collection, Revolting Rhymes. This book is filled with revolting rhymes. (Be warned: It's no ordinary Once upon a time). There's poor Cindy whose heart was torn to shreds, because her Prince, he chops off heads!gain...
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849673259
- Gwales Code
- gwales.com.9781849673259
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cerddi Ffiaidd
- Awdur / Author
- Dahl, Roald
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-04-21
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Williams, Gwynne
- Darlunydd / Illustrator
- Blake, Quentin
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 48 pages
- Size
- 127 × 190 mm; depth 13 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Roald Dahl wedi tynnu ei bensil hud o’i gas pensiliau, wedi ei miniogi, ac wedi rhoi swyn ar bapur yn ei ffordd unigryw ei hun unwaith eto. Yma, mae’r awdur penigamp yn troi sawl stori boblogaidd ben i waered, a throi cymeriadau diniwed i fod yn ‘ddiawliaid’ mewn croen. Diolch i ddawn addasu Gwynne Williams, mae’r cerddi ffiaidd hyn yn gweithio hefyd yn Gymraeg a phob gair yn gwneud ei waith cystal â geiriau Roald Dahl ei hun. Wrth ddarllen am hanes Sinderela, y Tri Mochyn Bach, Nia Ben Aur a'r Hugan Fach Goch, feddylion ni erioed mor wahanol allai’r straeon hyn fod petaen nhw'n magu tipyn o ddiawlineb ac wmff. Wyt ti’n barod am sioc? Bydd pob blaidd yn crynu yn ei sgidiau wrth ddarllen hanes yr Hugan Fach Goch. Dyma lodes gyfrwys ar y naw, ac un beryg wrth ddal gwn! Dydi Nia Ben Aur ddim yn angel o bell ffordd, a dydi Sinderela ddim am fodloni ar ryw lipryn o dywysog dwy a dime. Dyma gyfrol sy'n chwa o awyr iach ac yn un sy'n ysgiwio'r storïau hud a lledrith cyfarwydd. Mae Roald Dahl, a Gwynne Williams yn ei dro, wedi gafael yn y cymeriadau hyn gerfydd eu diniweidrwydd ac wedi eu hysgwyd nes eu bod yn gymeriadau gwerth eu halen. Wedi'r cyfan, mae yna elfen o ddiawlineb ym mhob un ohonon ni, on'd oes?
Share
