Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Chwedlau Cymru

Chwedlau Cymru

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mwynhewch dreftadaeth gyfoethog Cymru o chwedlau a straeon tylwyth teg, wedi'u hail-adrodd ar gyfer darllenwyr ifanc. O ddreigiau hudolus Cymru sy'n dinistrio castell nos ar ôl nos, i dywysoges wedi'i gwneud allan o flodau a thrafferthion plentyn cyfnewid; o ffyddlondeb y ci hela Gelert, i fachgen sy'n holi cwestiynau ac yn tyfu i fod y bardd Cymreig mwyaf adnabyddus erioed..

Disgrifiad Saesneg / English Description

Enjoy Wales's rich heritage of myth and fairy tales, re-told for young readers. From magical Welsh dragons that destroy a castle night after night, to a princess made out of flowers and a fairy changeling bother; from loyal hunting hound Gelert, to a boy who asks questions and goes on to become the greatest Welsh bard ever known...

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781804162668
Gwales Code
gwales.com.9781804162668
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Chwedlau Cymru
Awdur / Author
Fayers, Claire
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-04-01
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Lewis, Siân
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
240 pages
Size
141 × 204 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C171272

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae pawb yn gyfarwydd â’r syniad o Gymru fel gwlad y gân, ond dyma gyfrol hyfryd a hylaw sy’n dangos hefyd, fel y dywed yr awdur ei hun, mai Cymru yw gwlad y chwedlau a bod rheini i’w gweld a’u teimlo o’n cwmpas ym mhob man. Er bod diwyg ac edrychiad nofel i Chwedlau Cymru a’i Straeon Hud a Lledrith , addasiad y ddewines geiriau, Siân Lewis, o waith Claire Fayers sydd yma. Mae'r gyfrol yn gasgliad cynhwysfawr o bedair chwedl ar bymtheg o straeon o bob cwr o chornel o Gymru a’r Byd Arall. O’r cyfarwydd, megis chwedlau Blodeuwedd, Pwyll a Rhiannon a Gelert i’r mwy anghyfarwydd, yn cynnwys straeon 'Y Bachgen a Ofynnai Gwestiynau', 'Pwca yn y Pwll Copr' a 'Fy Mrawd, y Tylwythyn Teg', mae yna wir gyfoeth o fewn cloriau’r gyfrol hon. Cawn ein hatgoffa o helyntion Gwrtheyrn a pham mai draig sydd ar faner Cymru, hanes Cantre’r Gwaelod, ymweliad y diafol ag ardal Pontarfynach a’n cyflwyno i’r dewin Myrddin a’r bardd enwog Taliesin, heb sôn am anturiaethau’r o fyd y Mabinogi a’r tylwyth teg drygionus a digon creulon ar adegau. Oes, mae yna rywbeth i bawb. Ond yr hyn sy’n dod â hud a lledrith ychwanegol i’r gyfrol hon yw’r modd dychmygus y mae’r straeon yn cael eu hadrodd. Mae’r dawn dweud a’r diniweidrwydd yn amlwg. Dyna i chi’r cyfeiriad at Morgan Methu-canu yn y stori 'Telyn y Tywyth Teg' oedd yn ysu am gyrraedd y brig mewn ym mhopeth, yn cynnwys canu, er mor anobeithiol yr oedd e am wneud hynny: ‘Fel y gwyddom ni, Cymru yw Gwlad y Gân. Mae’n enwog am ei miwsig ac mae Cymro sy’n methu canu fe morfil sy’n methu nofio.’ Mae’r ysgrifennu’n agos atoch iawn ac yn llifo’n rhwydd ac yn naturiol, gan eich tynnu i mewn i fyd bob stori a’ch gafael yn dynn. Cewch eich arwain i mewn i bob stori gan gyflwyniad bach i’r hyn sydd i ddilyn, gan ei gwneud hi’n hawdd i ddewis a dethol pa stori i’w darllen nesaf. Cyfrol i blant yw hon, wrth gwrs, ond does dim amheuaeth y bydd bob un o’r straeon o fewn ei chloriau’n apelio at ddarllenwyr o bob oed ac yn cynnig ysgogiad pellach i ddychwelyd at rai o’r testunau gwreiddiol. Mae’n siŵr hefyd fod yna straeon hud a lledrith tebyg i’w cael yn eich ardal chi, a dyma un o’r cyfrolau hynny a allai fod yn allwedd i gynnau eich awydd i chwilio am rai o’r rheini unwaith eto. Heb os, dyma gyfrol sy’n werth bob ceiniog ac yn anodd iawn ei rhoi i lawr. Mynnwch eich copi chi nawr.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

This book includes 18 traditional favourites and classic myths.

View full details