Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Chwerwfelys

Chwerwfelys

Regular price £8.00 GBP
Regular price Sale price £8.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dilyniant i'r nofel boblogaidd Mudferwi , a gyhoeddwyd yn 2019. Mae Alys yn byw ei breuddwyd yn rhedeg bwyty llwyddiannus yn Nyffryn Clwyd gyda'i chariad, Duncan. Ond pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia, mae'n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â'r bwyty.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Sequel to the popular novel, Mudferwi , published in 2019. Alys is living her dream, running a successful restaurant in the Vale of Clwyd with her partner, Duncan. But when Duncan is offered a contract to film a tv programme in Patagonia, Alys is left to run the restaurant alone.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845278076
Gwales Code
gwales.com.9781845278076
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Chwerwfelys
Awdur / Author
Roberts, Rebecca
Current Price ex VAT
£8.00
Current Price inc VAT
£8.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-12-06
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
234 pages
Size
128 × 198 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd. Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt , nofel i bobl ifanc a gafodd ei chyhoeddi yn Hydref 2020 gan Wasg Carreg Gwalch, ac mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu. Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat , ei chyhoeddi gan Gomer yn gynharach yn 2020. Enillodd #Helynt Wobr Tir na n-Og 2021 a’i chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae Alys wedi cael ei breuddwyd: mae hi’n rhedeg bwyty llwyddiannus yn ei phentref genedigol yn Nyffryn Clwyd efo’i chariad, y cogydd golygus Duncan Stuart. Ond dyw bywyd ddim yn fêl i gyd – pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia mae’n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â’r bwyty. Daw John, ffrind gorau Duncan, i roi help llaw iddi, ond doedd Alys ddim wedi ystyried y byddai’n gorfod delio â Lydia, cyn-wraig drafferthus a sbeitlyd Duncan.

View full details