Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth

Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth

Regular price £9.95 GBP
Regular price Sale price £9.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad o'r cerddi mwyaf digri gan amrywiaeth eang o feirdd cyfoes wedi eu casglu gan y stompfeistr ei hun, Gruffudd Owen.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of humorous poems, collected by stompmaster Gruffudd Owen.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781911584261
Gwales Code
gwales.com.9781911584261
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Chwyn - Blodeugerdd Barddas o Gerddi Doniol, Deifiol a Di-Chwaeth
Awdur / Author
Barddas, Cyhoeddiadau
Current Price ex VAT
£9.95
Current Price inc VAT
£9.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-11-07
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Barddas
Editor
Owen, Gruffudd
Darlunydd / Illustrator
Mai, Bethan
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
120 pages
Size
185 × 140 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Darllen difyr iawn, ’chan. Difyr iawn. Dwi ’di cael pleser mawr yn gafael yn y gyfrol yma’n ysbeidiol rhwng perfformiadau, gan ddarllen ryw bedair neu bum cerdd ar y tro. Be gewch chi yn y casgliad yma gan amrywiol o feirdd cyfoes Cymru ydi canu ysgafn, doniol, deifiol a ffraeth ar nifer o destunau gwahanol. Mae yna amrywiaeth mawr hefyd yn arddull y cerddi, o’r cywyddau a’r englynion caeth i gerddi odl a mydr a cherddi rhydd efo iaith hollol naturiol bob dydd. Da! Diddorol mai Chwyn ydi teitl y gyfrol, gan mai pethau ffiaidd ac atgas yw chwyn fel arfer, i’w difa a’u gwared er mwyn gwneud lle i’r blodau tlws cain – sef y farddoniaeth safonol ddifrifol ddwys a edmygir cymaint. Ond mae mawredd mewn chwyn hefyd. Y mae ganddynt ruddin a gwraidd a styfnigrwydd i fynnu eu lle. A diolch i’r drugaredd am hynny. Yn eironig ddigon, yng ngherdd gynta’r casgliad, mynnu garddwr y mae Rhys Iorwerth i’w helpu i wared ei driffids, 'yn ei rhaib a’i blagur ha’, mae sin fel Amazonia.' Chwyn ar ei wyneb sydd gan Iwan Rhys yn ‘Marwnad fy Marf’. Mae llinellau gwych y gerdd yn ymdebygu ei dyfiant barfog i 'pennaf sgrwbiwr ffrimpenni' a 'fy nhumbleweed, fy Numbledore'. Dwi’n dotio at gywydd Llŷr Gwyn Lewis ‘Yr Wylan’ a’i adleisio clyfar ond troëdig ar gerdd eiconig Dafydd ap Gwilym – 'Achwyn y mae am gachu! – am bibo di-baid y gwylanod arno, ond er ei gŵyn ni all eu casáu - 'sŵn rhain yw sŵn y ’nhre i'. Mae nifer o barodïau llawn dychymyg fel ‘Gwerthu’ gan Arwel Pod ac ambell gic hob-nȇlar gwleidyddol fel ‘Cȃn y Llamhidydd’ gan Osian Rhys. Ac mae ‘thtori Crwyth y pythgodyn thi bath’ gan Iwan Rhys yn gneud imi chwerthin rŵan wrth ei chofio hyd yn oed. Mae hi’n apelio’n fawr at fy synnwyr digrifwch swreal o hurt ac od i, ac am ryw reswm yn f’atgoffa o gerdd wych Stanley Holloway, ‘The Lion and Albert’. A’r diweddglo mor annwyl a diniwed anticleimacs. Ni allaf enwi pob bardd a dyfynnu o bob cerdd ond gwir yw dweud bod perlau ar fwclis y sgwennu trwyddi draw. Os oes gennych synnwyr digrifwch o gwbl, yna mi wnewch fwynhau darllen Chwyn . Bydded i’r math yma o gerddi gael eu cytir eu hunain, a hwnnw ar dir ffrwythlon gyda digon o olau dydd chwaeth a dŵr hiwmor. Mae mawredd mewn mieri!

View full details