Cyngor Llyfrau Cymru
Cicio'r Bar
Cicio'r Bar
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Trydedd nofel yr awdures Sioned Wiliam, sy'n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Mae'r nofel lawn hiwmor yn dilyn poblogrwydd y ddwy nofel gyntaf, Dal i Fynd a Chwynnu . Ailymwelir â chymeriadau Dal i Fynd ond nid oes angen i chi fod wedi darllen y nofel gyntaf i fwynhau hiwmor a dychan y stori newydd. Mae'n sefyll ar ei phen ei hun.
Disgrifiad Saesneg / English Description
TV comedy director Sioned Wiliam's third humorous novel, following the popular Dal i Fynd and Chwynnu . It revisits characters from Dal i Fynd but may be enjoyed on its own merit.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784614157
- Gwales Code
- gwales.com.9781784614157
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cicio'r Bar
- Awdur / Author
- Wiliam, Sioned
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-05-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 198 pages
- Size
- 200 × 135 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Sioned Wiliam yn byw yn Llundain, ond mae'n enw adnabyddus iawn ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Cynhyrchodd amryw o raglenni comedi i’r prif rwydweithiau teledu Fe’i henwebwyd am wobr BAFTA Lloegr dair gwaith fel cynhyrchydd ac enillodd y British Comedy Award a’r Rhosyn Efydd ym Montreux am Big Train ym 1999. Rhwng 1999 a 2006 roedd yn Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill’s Sketch Show a Cold Feet .
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’n gyfle i ddod i nabod Anwen, Delyth a Nia, cyn i un ddod yn fam brysur, un yn ddynes fusnes lwyddiannus a'r llall yn wraig weinidog gydwybodol. Ac fe fydd yn gyfle i baentio darlun o Aber yn yr 80au a straeon gwleidyddol mawr y cyfnod. Fe welwn y tri chymeriad yn eu hieuenctid – yn llawn gobeithion ac egwyddorion. Ynghanol y miri fe fydd sawl tro annisgwyl, ac ymgais i bortreadu bywyd yn ei gyfanrwydd, yr ysgafn a’r dwys, fel sy’n ddisgwyliedig gan yr awdures brofiadol hon. Dyma drydedd nofel Sioned, yn dilyn llwyddiant Dal i Fynd sydd wedi ei haddasu'n ffilm Nadolig gan S4C. Yng ngeiriau Bethan Gwanas am y llyfr hwnnw, ‘Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.’
Share
