Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cofiant Aneurin Bevan

Cofiant Aneurin Bevan

Regular price £20.00 GBP
Regular price Sale price £20.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Saif Aneurin Bevan ar ei ben ei hun, yn wleidydd sosialaidd o argyhoeddiad a adawodd waddol nodedig i'w gyd-ddynion - y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Dyma gofiant cynhwysfawr o'i fywyd a'i waith gan yr awdur toreithiog D. Ben Rees.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Aneurin Bevan was a unique, socialist politician of conviction who left a noteable endowment to his fellow man - the National Health Service. This is a comprehensive biography of his life and work by prolific author D. Ben Rees.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781999689865
Gwales Code
gwales.com.9781999689865
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cofiant Aneurin Bevan
Awdur / Author
Rees, D. Ben
Current Price ex VAT
£20.00
Current Price inc VAT
£20.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-11-24
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Modern / Modern Welsh Publications Ltd.
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
312 pages
Size
297 × 210 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae cyhoeddi’r cofiant newydd hwn yn achlysur pwysig yn ein hanes fel cenedl. Am y tro cyntaf erioed mae gennym bellach gofiant sylweddol a chytbwys ei farn i Aneurin Bevan, un o’n prif wleidyddion, a hynny yn Gymraeg. Mae’n ychwanegiad campus at y cofiannau iddo a gyhoeddwyd gan awduron blaenllaw eraill megis Michael Foot (cyfaill mynwesol personol i Bevan), John Campbell, Dai Smith, ac yn fwy diweddar Nicklaus Thomas-Symonds. Ond nid oedd yr un o’r awduron hyn wedi deall yn iawn bwysigrwydd cefndir Cymreig Nye Bevan yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r Dr D. Ben Rees yn awdur arbennig o addas ar gyfer llunio’r cofiant hwn gan iddo gyhoeddi cofiannau i nifer o gewri gwleidyddol Cymreig yr ugeinfed ganrif, yn eu plith Jim Griffiths a Cledwyn Hughes. Elfen arall o bwys yw i’r awdur fod yn rhan o wleidyddiaeth Lafur Cymru byth ers ei ddyddiau ysgol yn Nhregaron. Safodd fel ymgeisydd seneddol ar ran y blaid honno, a bu yng nghanol pethau Llafuraidd dros gyfnod maith. Y broblem fwyaf i unrhyw hanesydd sydd yn gweithio ar Bevan yw nad oes archif sylweddol o’i bapurau ar gael. Yn ogystal, prin iawn oedd y llythyrau personol a luniwyd ganddo. Ond aeth Ben Rees ati i gywain ynghyd pob sgrap o dystiolaeth a gwybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys cloddio drwy’r holl archifau cyfoethog sydd ym meddiant Archif Wleidyddol y Llyfrgell Genedlaethol, a darllen pob cyfrol ac erthygl berthnasol. Cryfder pennaf yr astudiaeth yw llwyddiant yr awdur i ddehongli camp Aneurin Bevan yn sefydlu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mis Gorffennaf 1948. Cawn asesiad penigamp o’r holl rwystrau a wynebodd, a’r syndod mawr ym 1945 oedd mai Bevan a ddewiswyd gan y Prif Weinidog Llafur newydd, Clement Attlee, ar gyfer y swydd hollbwysig hon gan mai rebel ffyrnig o’r meinciau cefn oedd Nye Bevan byth ers ei ethol i’r senedd am y tro cyntaf ym mis Mai 1929. Nid oedd ganddo cyn hynny unrhyw brofiad o ddal swydd gyhoeddus, heblaw ar lefel leol o fewn Tredegar. Ond rhaid mai ef oedd y dyn â’r union bersonoliaeth rymus ar gyfer y dasg hon, yn nhyb y Prif Weinidog. Dangosodd ddewrder a dyfalbarhad anghyffredin wrth iddo wireddu ei freuddwyd yn wyneb cynifer o rwystrau anferthol. Ym marn Ben Rees, ‘Fe’i hanwybyddwyd yn bwrpasol gan arweinwyr ei blaid er mai ef oedd y deallusyn pennaf a feddai y Blaid Lafur.' A hynny er iddo orfod gadael yr ysgol yn ifanc iawn, a’r Coleg Llafur Canolog yn Llundain, sefydliad hynod Farcsaidd ei naws, a fu’n gyfrifol am lunio ei ddaliadau gwleidyddol yn ystod y 1920au cynnar. Yn ystod yr un cyfnod roedd Nye Bevan yn gwasanaethu hefyd fel Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn swydd ddeuddyblyg, a phrofodd gryn lwyddiant yn sefydlu rhaglen uchelgeisiol i adeiladu miloedd o gartrefi addas, yn bennaf ar gyfer y dosbarth gweithiol drwy’r wlad. Er gwaetha’i bersonoliaeth dymhestlog ar adegau, daeth i drin ei weision sifil a’r awdurdodau cyhoeddus â thact a sensitifrwydd pan oedd angen. Erbyn etholiad hydref 1950 roedd Prydain wedi adeiladu mwy o dai nag unrhyw wlad arall ar y cyfandir ers yr Ail Ryfel Byd. Mae nifer o gryfderau eraill i’r gwaith hwn. Nid y lleiaf ohonynt yw dealltwriaeth lwyr yr awdur o gefndir personol a theuluol Nye Bevan yn Nhredegar, a byd arbennig y lofa a oedd mor ganolog yno. Cawn ddarllen am ei hanes ym myd llywodraeth leol yr ardal ac fel aelod gweithgar ar Gyngor Sir Mynwy, a’r ffordd y dewiswyd Bevan i olynu Evan Davies AS fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Glyn Ebwy yn 1928. Etholwyd Aneurin Bevan i’r Senedd am y tro cyntaf ar 30 Mai 1929 – yr un diwrnod â’i ddarpar wraig Jennie Lee a etholwyd yng Ngogledd Swydd Lanark. Ceir asesiad sensitif a chytbwys o natur eu perthynas a'u priodas led ‘agored’ ei naws. Roedd Aneurin, mae’n debyg, yn dipyn o ferchetwr ar hyd ei oes, yn enwedig gyda gwleidyddion eraill, a Barbara Castle yn eu plith. Cyfeirir hefyd at fodd o fyw moethus Aneurin a Jennie. Nid oeddent yn dal yn driw i’r ffordd Sosialaidd o fyw, gan fwynhau pethau gorau bywyd. Mae’r bennod sydd yn dadansoddi perthynas Aneurin Bevan a Chymru yn hynod ddiddorol. Nid oedd ef yn un cenedlaetholgar, ond erbyn diwedd y 1950au roedd yn llawer iawn mwy rhesymol ei farn. Erbyn etholiad cyffredinol Hydref 1959, yn rhannol oherwydd dylanwad ei gyfaill gwleidyddol Jim Griffiths AS, roedd wedi dod i dderbyn y dylid penodi Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn ddi-oed. Ond, wrth gwrs, roedd yn ei fedd cyn i hynny ddigwydd bum mlynedd yn ddiweddarach. Rhannau eraill o’r cofiant sydd yn eithriadol o ddefnyddiol yw’r rhai sy’n trafod ei berthynas (led anodd ac astrus yn aml) gyda gwleidyddion Llafur amlwg eraill, yn eu plith Clement Attlee, Michael Foot, Ernest Bevin a Hugh Gaitskell. Diolch o galon i’r awdur cynhyrchiol hwn am ei waith a’i ymroddiad i ymchwilio’n ddiarbed ac i ysgrifennu. Edrychwn ymlaen at weld cyhoeddi ei gofiant i’r Arglwydd Gwilym Prys Davies yn y gwanwyn. Melys moes mwy.

View full details