Cyngor Llyfrau Cymru
Cofio Hedd Wyn - Atgofion Cyfeillion a Detholiad o'i Gerddi
Cofio Hedd Wyn - Atgofion Cyfeillion a Detholiad o'i Gerddi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma gyfrol hardd 400 tudalen, llawn lluniau sy'n cynnwys atgofion cyfeillion Hedd Wyn, yn cynnwys Simon Jones, Cwm Cynllwyd, oedd gyda'r bardd ar faes y gad cyn iddo syrthio. Ceir hefyd ddetholiad o gerddi Hedd Wyn yn ogystal â cherddi gan eraill yn cofio'r bardd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2017.
Disgrifiad Saesneg / English Description
For the first time, we are given access to the memories of Simon Jones, Cwm Cynllwyd, one of Hedd Wyn's friends who fought alongside him in battle. The text stems from a conversation between the soldier and the author. Also included are the reminiscences of other contemporaries, a selection of Hedd Wyn's works and rememberance poems, together with many images.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784615314
- Gwales Code
- gwales.com.9781784615314
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cofio Hedd Wyn - Atgofion Cyfeillion a Detholiad o'i Gerddi
- Awdur / Author
- Gwyndaf, Robin
- Current Price ex VAT
- £14.99
- Current Price inc VAT
- £14.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-02-22
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 408 pages
- Size
- 176 × 252 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Robin Gwyndaf yn fardd ac awdur toreithiog sydd wedi cyhoeddi dros 300 o erthyglau ar ddiwylliant gwerin Cymru, ac mae'i ddwsin o lyfrau yn cynnwys Chwedlau Gwerin Cymru (1989) a Teulu, Bro a Thelyn (1997). Mae hefyd wedi cyhoeddi barddoniaeth, traethodau ac wedi teithio'n eang gyda'i waith ac fel cynrychiolydd ar ran UNESCO. Daw'n wreiddiol o Langwm, Uwchaled ac mae bellach yn byw yn Llandaf, Caerdydd.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
A hithau eleni'n ganmlwyddiant Cadair Ddu Eisteddfod Penbedw 1917, dyma gyfraniad arall i gofnodi'r achlysur. Wedi'r cyfan, os oes un digwyddiad yn anad yr un arall yn nodweddu profiad Cymru o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yna llwyddiant chwerwfelys Hedd Wyn union ganrif yn ôl yw hwnnw. Rhwng adnewyddu ac ailagor yr Ysgwrn, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Môn ac amryw raglenni teledu a radio, byddai'n anodd iawn i'w aberth fynd heibio. Mewn cyfrol arall a gyhoeddwyd yn ddiweddar sef Canrif yn Cofio a olygwyd gan Ifor ap Glyn, cyfeiria Ceri Wyn Jones at 'Hedd a'i waed yn ddiwydiant', llinell aflonyddol sy'n codi cwestiwn ynghylch natur y cofio, h.y. y perygl i fasnacheiddio'r cof am y Rhyfel Mawr. Ewch i ddinas Iper yn Fflandrys, er enghraifft, ac mae'r rhyfel yn sicr yn ganolbwynt i ddiwydiant treftadaeth proffidiol: gellir mynd ar Over The Top Tours ac yfed cwrw Passchendaele. Ni ddigwyddodd dim mor ddi-chwaeth â hynny yng Nghymru, ac yn sicr parch ac urddas yw nod amgen y gyfrol hon. Eglura Robin Gwyndaf yn ei ragair fod ganddo bedwar prif fwriad. Yn gyntaf, 'cyflwyno rhagor o dystiolaeth o lygad y ffynnon am y bardd ei hun, ei fywyd a'i farddoniaeth'. Yn ail, cynnwys detholiad o'r cerddi achlysurol a luniodd Hedd Wyn fel bardd bro, y math o gerddi a hepgorwyd o flodeugerddi eraill o'i waith, er mwyn 'rhoi cyfle i'r darllenwyr weld bod i gerddi o'r fath ... werth arbennig ... sef gwerth cymdeithasol'. Yn drydydd, mae'n gyfrol 'i'n hatgoffa o'r newydd am wallgofrwydd, oferedd a dioddefaint annirnadwy pob rhyfel'. Ac yn olaf, a'r awdur yn heddychwr o argyhoeddiad, cyfrol 'i'n hysbrydoli ninnau oll o'r newydd i ddyblu a threblu ein hymroddiad i roi diwedd am byth ar ryfel'. Mae'r gyfrol felly'n ymestyn gryn dipyn y tu hwnt i'w theitl llawn sef Cofio Hedd Wyn: Atgofion Cyfeillion a Detholiad o'i Gerddi , er mai'r penodau sy'n cadw olwg fanylaf ar y teitl hwnnw sy'n gweithio orau. Er enghraifft, mae'r adysgrif o sgwrs gyda Simon Jones, cyfaill a chyd-filwr i Hedd Wyn a'i gwelodd yn syrthio ar faes y gad, yn gyfraniad pwysig, ac felly hefyd y detholiadau o atgofion y Parch. William Morris amdano. Cymwynas hefyd fu cynnwys detholiad mor helaeth o gerddi i enghreifftio amrywiaeth awen prifardd Trawsfynydd: a hithau dros gan tudalen o hyd, dyma'r hwyaf o gryn dipyn o 14 pennod y gyfrol 405 o dudalennau hon. Ac agwedd werthfawr yw'r atgynhyrchiadau lliw niferus o ansawdd uchel o ffotograffau, darluniau a phosteri - 160 ohonynt - sy'n harddu'r gyfrol. Dyma lafur cariad o brosiect ac efallai fod brwdfrydedd yr awdur weithiau'n drech na'i ymarferoldeb. O'i golygu'n llymach, tybed na ellid bod wedi sicrhau tynnach ffocws i'r gyfrol a hepgor yn eu cyfanrwydd rai penodau nad oedd eu perthnasedd i'r prif deitl mor amlwg, e.e. pennod 3 sy'n cynnwys atgofion Jacob Jones, a phennod 9 achyddol ei phwyslais ar Simon Jones a'r teulu o Gwm Cynllwyd? Ond fel arwydd amserol o wrogaeth a gwerthfawrogiad, nid oes amau cymhelliad cywir y gyfrol swmpus hon.
Share
