Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cofio'r Beasleys - Brwydro Dros yr Iaith — Brwydro Dros yr Iaith

Cofio'r Beasleys - Brwydro Dros yr Iaith — Brwydro Dros yr Iaith

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cofiant poblogaidd i Trefor ac Eileen Beasley yn rhoi'r cefndir a'r cyd-destun i hanes eu brwydr i gael papur y dreth yn Gymraeg, a'u cyfraniad at frwydr yr iaith, eu cefnogaeth weithredol i Gymdeithas yr Iaith ac i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r llyfr wedi'i seilio ar atgofion personol Delyth o'r cyfnod ac o ymdrechion ei rhieni, ynghyd â llawer o luniau a llythyrau heb eu cyhoeddi o'r blaen.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A popular biography of Trefor and Eileen Beasley giving the background and context of their campaign to get tax papers in Welsh, and their contribution to the Welsh language struggle, their active support for Cymdeithas yr Iaith and for Welsh-medium education. The book is based on Delyth's personal memories of the period and of her parents' efforts, along with many previously unpublished.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800998414
Gwales Code
gwales.com.9781800998414
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cofio'r Beasleys - Brwydro Dros yr Iaith — Brwydro Dros yr Iaith
Sub Title
Brwydro Dros yr Iaith
Awdur / Author
Prys, Delyth
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2026-07-22
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
142 × 215 mm; depth 17 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywgraffiadau - Cymysg (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Mixed (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Ganed Delyth yn Llangennech yn 1954 yn ferch i Trefor ac Eileen Beasley ac yn chwaer fach i Elidyr. Mynychodd Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli cyn symud i fyw i sir Forgannwg yn 1965 lle mynychodd Ysgol Rhydfelen. Aeth i’r brifysgol yn Aberystwyth yn 1972 i astudio am radd yn y Gymraeg cyn symud yn 1975 i Fangor yn fyfyriwr ymchwil. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa broffesiynol yn y brifysgol ym Mangor lle bu’n arbenigo ar safoni termau Cymraeg ac yn arloesi ym myd technolegau iaith. Bu’n bennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr yno ac yn Athro yn yr Ysgol Ieithyddiaeth. Mae hi bellach wedi ymddeol, ac yn byw yn Y Felinheli. Mae’n Athro Emerita ym Mhrifysgol Bangor, ac yn Gymrawd Anrhydeddus o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hi’n briod â Rhoslyn Prys, ac mae ganddynt tri o feibion, chwech o wyrion a chwarter cath.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Delyth was born in Llangennech in 1954, the daughter of Trefor and Eileen Beasley and the younger sister of Elidyr. She attended Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli before moving to Glamorganshire in 1965 where she attended Ysgol Rhydfelen. She went to university in Aberystwyth in 1972 to study for a degree in Welsh before moving in 1975 to Bangor as a research student. She spent most of her professional career at the university in Bangor where she specialised in the standardisation of Welsh terms and pioneered the world of language technologies. She was head of the Language Technologies Unit at Canolfan Bedwyr there and a teacher in the School of Linguistics. She is now retired, and lives in Y Felinheli. She is Professor Emerita at Bangor University, and an Honorary Fellow of the Coleg Cymraeg Cenedlaethol. She is married to Rhoslyn Prys, and they have three sons, six grandchildren and a cat.

View full details