Cyngor Llyfrau Cymru
Cofio R. S. - Cleniach yn Gymraeg? — Cofio R. S.
Cofio R. S. - Cleniach yn Gymraeg? — Cofio R. S.
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'r gyfrol hon yn ein cyflwyno i agwedd ar bersonoliaeth R. S. Thomas na welwyd ynghynt yn gyhoeddus efallai, sef ei hiwmor, ei ffraethineb a'i garedigrwydd. Atgofion ei ffrindiau a chymdogion a geir yma, ac mae sawl stori gofiadwy am y bardd arbennig hwn oedd hefyd yn enigma.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This is a book of personal memories and stories which presents a different and intriguing side of poet R. S. Thomas - his humour, his wit and his kindness. Friends and neighbours share their personal memories of R. S., the eminent poet who was also an enigma.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781907424441
- Gwales Code
- gwales.com.9781907424441
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cofio R. S. - Cleniach yn Gymraeg? — Cofio R. S.
- Sub Title
- Cofio R. S.
- Awdur / Author
- Bwthyn, Gwasg y
- Current Price ex VAT
- £8.95
- Current Price inc VAT
- £8.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-06-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Editor
- Williams, Gareth Neigwl
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 144 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
‘Maen nhw’n dweud fy mod i’n gleniach yn Gymraeg’ – dyma eiriau R. S. Thomas ei hun. Ac y mae’r casgliad hwn o ysgrifau gan gyfeillion Cymraeg y bardd fel petai’n cadarnhau hynny. Mae’n debyg mai i Gareth Neigwl y dylem ddiolch am gasglu’r holl ddeunydd ynghyd, ac i Geraint Jones, Trefor, am ei olygu. Wrth gwrs, roedd R. S. yn dipyn o enigma i’r Cymry a’r Saeson fel ei gilydd. Pan fyddai'n ysgrifennu neu'n siarad Saesneg, ymddangosai fel Sais diwylliedig o’r dosbarth canol uchaf, ac roedd y ddwy ferch a briododd, sef Mildred Eldridge a Betty Vernon, yn gwbwl ddi-Gymraeg. Ei sylw ef ar hynny, meddai Gwyn Thomas yn y gyfrol hon, oedd: ‘Mae pethau’n wahanol lle y mae serch yn y cwestiwn.’ Ydyn, o bosib, ond pam anfon Gwydion, ei fab, i ysgol breswyl Saesneg, nes troi hwnnw’n ddi-Gymraeg hefyd? Mae’r gyfrol hon yn brwsio rhyw baradocsau felly dan y carped yn gyfleus iawn, ac yn rhoi’r argraff fod R. S. Thomas yn Gymro hynod dwymgalon, ac yn wir, yn fwy eithafol Gymreig na’r cyfeillion sy’n sgwennu amdano yma. Ymysg y rheini y mae Gareth Neigwl, Geraint Jones (sawl gwaith), Robyn Léwis, Owain Williams, Emyr Humphreys, Byron Rogers, Mary Roberts, Ann Owen Vaughan, Alwyn Pritchard, Beti a’r diweddar John Arfon Huws. Nid rhyw barchusion sidȇt mo’r mwyafrif o’r rhain o bell ffordd, ond ymddengys R. S. dipyn ar y chwith i’r mwyaf gwrthryfelgar ohonynt. Diau mai fo oedd yn iawn hefyd, yn ei bendantrwydd yn pwysleisio y dylem ymarweddu fel Cymry uniaith, ac mai llugoer oedd y dwyieithrwydd y mynnai’r mwyafrif ohonom ei arddel. Doedd ryfedd iddo godi gwrychyn Dafydd Elis Thomas, a Dafydd Iwan hyd yn oed. Ymddengys R. S. yn y gyfrol hon yn ‘hen foi iawn’, yn llawer mwy dynol nag a wna mewn cyfrolau Seisnig dyfnddysg sy'n trafod hanfodion ei farddoniaeth. Ond y tebyg yw y byddai R. S. yn barod i adleisio geiriau Parry-Williams: ‘Mae amryw byd ohonom yn fy nghlai.’ Un o’r amryw byd hynny yw’r dyn sy’n cael ei bortreadu yn y gyfol hon.
Share
