Cyngor Llyfrau Cymru
Cofiwch Olchi Dwylo a Negeseuon Eraill
Cofiwch Olchi Dwylo a Negeseuon Eraill
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Tref ddychmygol ar arfordir Ceredigion yn ystod y Clo Mawr yw lleoliad y gyfrol ddifyr hon o straeon byrion. Cawn gwrdd ag ystod eang o gymeriadau, o Nathan saith oed sy'n gweld eisiau ei dad sydd yn y carchar i Enid sy'n bryderus wrth hunan-ynysu yn y tŷ y ganwyd hi ynddo naw deg pedwar o flynyddoedd yn ôl.
Disgrifiad Saesneg / English Description
An entertaining collection of short stories set in a Ceredigion seaside town during the Great Lockdown. We meet a wide range of characters, from seven-year old Nathan who misses his father who is in prison to 94-year old Enid who is anxiously self-isolating in the house where she was born.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845277925
- Gwales Code
- gwales.com.9781845277925
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cofiwch Olchi Dwylo a Negeseuon Eraill
- Awdur / Author
- Lewis, Geraint
- Current Price ex VAT
- £8.00
- Current Price inc VAT
- £8.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-06-11
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 148 pages
- Size
- 128 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd , i gyd i Wasg Carreg Gwalch a dwy gyfrol o straeon byrion, Y Malwod (Annwn) a Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa). Enillodd gystadleuaeth Stori Fer Cymdeithas Allen Raine ac ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Stori Fer Tony Bianchi yn 2019. Bu'n ysgrifennu’n helaeth i'r theatr, radio a theledu. Mae’n byw yn Aberaeron gyda'i wraig, Siân. www.geraintlewis.net
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
‒ Steddfod 'di canslo, 'achan. ‒ Deith hi 'nôl wap. Pethe'n normal 'to. ‒ O'dd pethe byth yn normal rownd ffor' hyn. Mawrth 2020, a daeth Clo Mawr Covid 19 i'r dref fechan hon ar arfordir Ceredigion fel y daeth i weddill Cymru. Dechreuodd ei thrigolion brynu gormodedd o bapur tŷ bach, gwnaethpwyd trefniadau i ofalu am anghenion anwyliaid, a sleifiodd ambell un o ddinasoedd mawrion i dreulio'r clo wrth lan y môr. Wrth i'r gwanwyn droi'n haf, ac wrth i'r clapio ar stepen y drws ddistewi, daw haul ar fryn wrth i ffrindiau gyfarfod, ond mae ambell un yn galaru ... 'Dyma awdur gwreiddiol sy’n meddu ar ddychymyg byw.' Marlyn Samuel
Share
