Cyngor Llyfrau Cymru
Credoau'r Cymry - Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol — Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol
Credoau'r Cymry - Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol — Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma lyfr sy'n cynnig dathliad o rai o'n credoau pennaf fel cenedl, trwy gyflwyno ymddiddanion yn cynnwys ein henwogion pennaf, a thrafodaethau athronyddol ar sylwedd eu syniadau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This book offers a celebration of some of our main beliefs as a nation, by introducing conversations including our famous chief characters and philosophiocal discussions on the substance of their ideas.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781783168804
- Gwales Code
- gwales.com.9781783168804
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Credoau'r Cymry - Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol — Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol
- Sub Title
- Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol
- Awdur / Author
- Williams, Huw L.
- Current Price ex VAT
- £12.99
- Current Price inc VAT
- £12.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-07-08
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 244 pages
- Size
- 138 × 216 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
1. Gosod yr Olygfa 2. Natur Ddynol – Pelagius 3. Cyfraith a Gwladwriaeth - Hywel Dda a Glyn Dŵr 4. Y Da, Y Duwiol a’r Gwleidyddol - Richard Price 5. Addysg, Cymuned a Chyfalafiaeth - Robert Owen 6. Heddychiaeth - Henry Richard a David Davies 7. Sosialaeth - Aneurin Bevan a Raymond Williams 8. Cenedlaetholdeb - Lady Llanover, Michael D Jones a JR Jones 9. Diweddglo
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Huw L. Williams yn ddarlithydd cenedlaethol mewn Athroniaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn arbenigo’n bennaf mewn athroniaeth wleidyddol, hanes meddwl gwleidyddol a chyfiawnder byd-eang.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o’n credoau fel cenedl, sydd wedi profi’n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy’n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dŵr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda’u syniadau pwysicaf wedi’u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy’n cynnig cyflwyniad hygyrch i’r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o’r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglŷn â grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a’r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi’i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru. Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o’n credoau fel cenedl.
Share
