Cyngor Llyfrau Cymru
Crys Rhif Saith, Y
Crys Rhif Saith, Y
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Pêl-droed ydy holl fywyd Carwyn! Mae cael ymuno ag Academi Man U yn gwireddu breuddwyd iddo, ond mae ganddo lawer i'w ddysgu yno. Yn ffodus, mae help ar gael - gan ei arwyr pêl-droed. Ac mae pob un yn gwisgo'r Crys Rhif 7. Ond a fydd hynny'n ddigon iddo lwyddo ar y lefel uchaf? (OD9+OC10+)
Disgrifiad Saesneg / English Description
Football is Jimmy's life! When he gets into the Man U Academy, it's a dream come true - but he still has lots to learn. Lucky for him, he's got help ... his football heroes. They all have one thing in common - the Number 7 Shirt. Will Jimmy win now he's got all the help he needs?
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781781121443
- Gwales Code
- gwales.com.9781781121443
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Crys Rhif Saith, Y
- Awdur / Author
- Gibbons, Alan
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Out of print
- Availability Status (CY)
- Allan o brint
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2012-07-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Barrington Stoke Ltd
- Translator
- Jones, Gordon
- Darlunydd / Illustrator
- Sotirovski, Aleksandar
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 56 pages
- Size
- 197 × 130 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma lyfr sy’n adrodd hanes Carwyn, bachgen ifanc sy’n cael ei dderbyn fel aelod o Academi Manchester United ar gyfer pêl-droedwyr ifanc. Rydym yn dilyn ei hynt a’i helynt o’r cyfnod pan oedd yn chwaraewr ifanc i’w dîm lleol, Cefn Einion, nes ei fod yn bedair ar ddeg oed ac yn aelod blaenllaw o dîm yr Academi sy’n curo tîm Bayern Munich mewn cystadleuaeth ryngwladol. Crys rhif saith y mae Carwyn yn ei wisgo, a thrwy gydol y gyfrol mae Carwyn yn ymwneud â chwaraewyr eraill sydd wedi bod yn aelodau o dîm Manchester United ac sydd, fel yntau, wedi gwisgo’r crys rhif saith. Mae’r cyw pêl-droediwr yn gofyn am gyngor gan George Best, Bryan Robson, Eric Cantona, David Beckham a Cristiano Ronaldo, a chaiff atebion i’w ymholiadau gan y chwaraewyr hyn. Cynhwysir hefyd dudalen o ffeithiau am bob un o enwogion y crys rhif saith. Er ein bod ni i gyd, er enghraifft, yn gyfarwydd â helyntion David Beckham ar y cae pêl-droed (ac oddi arno), faint ohonoch a wyddai mai ef ydi’r unig chwaraewr o Sais i chwarae mewn tair cystadleuaeth Cwpan y Byd? A faint ohonoch a wyddai mai Cristiano Ronaldo sgoriodd y gôl a olygodd bod cyfanswm goliau Manchester United yn Uwchgyngrair Lloegr yn cyrraedd 1000 yn 2005? Mae’r llyfr wedi ei anelu at ddarllenwyd 9–11 oed. Mae digonedd o luniau syml ond graffig eu harddull ynddo a dyw’r darllenydd mwyaf anfoddog ddim yn debygol o ddiflasu ar y gyfrol. Mae’n gymysgedd atyniadol o stori ac o lyfr chwaraeon, ac yn cynnig digon o gyfleoedd i godi chwilfrydedd ar gyfer darllen pellach, neu fel man cychwyn ar gyfer llunio darn o waith dosbarth neu brosiect.
Share
