Cyngor Llyfrau Cymru

Cwestiynu Popeth!

Cwestiynu Popeth!

Regular price £2.99 GBP
Regular price Sale price £2.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Rydyn ni'n byw mewn drysfa o wybodaeth! Ymunwch â ni i ddod o hyd i'r gwir y tu ôl i'r stori drwy ddefnyddio'ch sgiliau critigol gorau. O ddeall beth yw newyddion ffug i ddatrys dirgelion ac ymchwilio i drychinebau, byddwch yn gallu MEDDWL DROSOCH EICH HUN a CHWESTIYNU POPETH!

Disgrifiad Saesneg / English Description

CRITICAL LITERACY SKILLS FOR ALL! We live in an information jungle! Join us to find your way through it with essential critical literacy skills. From spotting fake news to solving mysteries and investigating disasters, you will be able to THINK FOR YOURSELF and QUESTION EVERYTHING!

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781804162415
Gwales Code
gwales.com.9781804162415
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cwestiynu Popeth!
Awdur / Author
Martineau, Susan
Current Price ex VAT
£2.99
Current Price inc VAT
£2.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-02-01
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Dafydd, Llinos
Darlunydd / Illustrator
Barker, Vicky
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
36 pages
Size
149 × 208 mm; depth 6 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau Cyfair Cyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General Reference Books (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C022612

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Wyt ti’n un sy’n cwestiynu popeth? Mae’n wir bod ein byd ni yn ddrysfa o wybodaeth – gwybodaeth gywir ac anghywir, yn newyddion go iawn, ac yn newyddion ffug. Mae cymaint o ffyrdd gwahanol o ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni. Mae’r gyfrol liwgar hon yn ein cyflwyno i sgiliau ymchwil – gan roi cyfle i ni ddod o hyd i’n ffordd drwy’r ddrysfa o wybodaeth gan ddarganfod ffeithiau gwir a chytbwys drosom ein hunain. Wrth fynd drwy’r gyfrol fer hon rydym yn dysgu sut i ddadansoddi'n rhesymegol a phwyllog. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o ba mor ddibynadwy yw'r geiriau rydym yn eu darllen a’u clywed. Ble allwn ni fynd i gael gwybodaeth annibynnol a dibynadwy ar y we? Pa gwestiynau ddylen ni fel ymchwilwyr ifanc fod yn eu holi? Beth yw ffynhonnell gynradd ac eilradd? A beth yn y byd yw newyddion ffug? Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu hateb wrth i ni bori drwy’r gyfrol ddefnyddiol hon sy’n hawdd iawn ei darllen, yn llawn delweddau lliwgar, ac sy’n cynnwys gwybodaeth newydd a difyr ar bob tudalen. Roeddwn i'n arbennig o hoff o'r rhan 'Geiriau i'w cofio', gan fod diffiniadau cryno a dealladwy ar gyfer y termau sy'n codi yn y testun ynddi, ac mae'r canllaw 'Cadw'n ddiogel ar-lein' yn berthnasol i bawb o bob oed. Mae yma weithgareddau i ti gael eu gwneud dy hun hefyd, o greu ffeil o ffeithiau am droseddau, i greu ffeithluniau, ac i ddefnyddio dy sgiliau ymchwil i ddod o hyd i atebion i gwestiynau go iawn. Sut all y geiriau rwyt ti’n eu hysgrifennu ddylanwadu ar bobl eraill? Pa fath o eiriau sy’n tynnu dy sylw di a pham? Mae un peth yn sicr – os wyt ti eisiau bod yn ymchwilydd, mi fyddi di wrth dy fodd â’r gyfrol hon. Cer ati i ddarganfod yr atebion i gyd a meddwl drosot dy hun, a phob lwc gyda’r ymchwilio!

View full details