Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Alun yr Arth: Alun y Môr-Leidr

Cyfres Alun yr Arth: Alun y Môr-Leidr

Regular price £2.95 GBP
Regular price Sale price £2.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Stori fywiog arall wedi ei darlunio'n lliwgar am helyntion Alun yr arth direidus wrth iddo gael bath; i blant dan 7 oed. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2005.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Another colourfully illustrated, lively story, about the antics of Alun the mischievous bear as he takes a bath; for children aged under 7 years. First published in 2005.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780862437909
Gwales Code
gwales.com.9780862437909
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Alun yr Arth: Alun y Môr-Leidr
Awdur / Author
Tomos, Morgan
Current Price ex VAT
£2.95
Current Price inc VAT
£2.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-02-04
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
24 pages
Size
209 × 200 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae'r Lolfa newydd gyhoeddi'r chweched stori am Alun yr Arth. Y tro yma mae'r arth direidus yn troi'n fôr-leidr. Morgan Tomos, cynrychiolydd gwerthiant gyda'r Lolfa, yw awdur y stori a fe hefyd sydd wedi darlunio'r lluniau a chreu'r cymeriadau. Mae ei brofiadau fel gwerthwr llyfrau yn amlwg yn y stori yma gan fod rhan fwyaf o'r stori wedi ei lleoli mewn siop lyfrau sy'n gwerthu llawer o lyfrau'r Lolfa. Mae Alun yr Arth wedi cael llond bol ar chwarae gyda theganau, ac mae'n cael ei lusgo i siop lyfrau. Ar y dechrau, mae'n troi ei drwyn ar lyfrau ond mae'n cael gafael ar lyfr ar fôr-ladron Cymru. Caiff ei hudo gan y llyfr, ac wrth ddarllen y storïau am Harri Morgan a Barti Ddu mae'n dychmygu ei fod e'n fôr-leidr - Capten Alun Wyllt! Wrth ddychmygu ei helyntion yn ymladd ar y môr mae'n chwalu'r siop lyfrau. Tuag at ddiwedd y llyfr daw'n amlwg i Alun bod llawer o sbort i gael wrth ddarllen llyfrau a drannoeth mae'n mynd yn ôl i'r siop i brynu rhagor o lyfrau. Dyma'r chweched gyfrol yn y gyfres o lyfrau stori a llun i blant bach, ac er mai stori syml iawn yw hi, caiff neges pwysigrwydd darllen ei chyfleu yn gryf iawn, neges sydd yn amlwg yn agos at galon Morgan fel awdur a gwerthwr llyfrau a thad i ddau fachgen ifanc. Dywedodd Morgan, "Pan ofynnodd Ann a Maldwyn, perchnogion Siop y Bont ym Mhontypridd, am stori'n ymwneud â siop lyfrau, bachais ar y cyfle gan gyfuno stori am siop lyfrau gyda stori'r môr-ladron." Mae cyfres Alun yr Arth wedi cael ei ganmol gan rieni a phlant fel ei gilydd. Mewn Adroddiad gan Banel Cloriannu ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru disgrifiwyd y llyfr fel, ". . . enghraifft arbennig o lyfr lle'r oedd yr holl elfennau yn cydweithio'n dda - stori ddarllenadwy, testun o faint cyfforddus, a lluniau addas a deniadol." Dywedodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa, "Braf gweld cyfres wreiddiol fel hon yn ffynnu yn wyneb yr holl addasiadau sy'n boddi'r farchnad. Gobeithio bydd rhieni a phlant yn mynd ati i ddilyn esiampl Alun yr Arth i brynu a mwynhau llyfrau gwreiddiol Cymraeg."

View full details