Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a'r Wy Pasg
Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a'r Wy Pasg
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Alun yn methu aros i fwyta ei wy Pasg siocled. Ond wrth ddilyn cliwiau'r Helfa Wy Pasg, daw ar draws rhywbeth llawer mwy diddorol na siocled. Rhif 20 yn y gyfres hynod boblogaidd hon i blant bach.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Alun the Bear can't wait to eat his Easter egg. As he follows the clues on the Easter Egg Hunt, he comes across something far more interesting than chocolate. 20th book in this very popular series for young children.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847718822
- Gwales Code
- gwales.com.9781847718822
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a'r Wy Pasg
- Awdur / Author
- Tomos, Morgan
- Current Price ex VAT
- £3.95
- Current Price inc VAT
- £3.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2014-03-17
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 24 pages
- Size
- 200 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Cynnwys / Table of Contents
Mae Alun yn methu aros i fwyta ei wy Pasg siocled. Ond wrth ddilyn cliwiau'r Helfa Wy Pasg, daw ar draws rhywbeth llawer mwy diddorol na siocled. Rhif 20 yn y gyfres hynod boblogaidd hon i blant bach.
Cynnwys / Table of Contents
Alun the Bear can't wait to eat his Easter egg. As he follows the clues on the Easter Egg Hunt, he comes across something far more interesting than chocolate. 20th book in this very popular series for young children.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Daw Morgan o Gaernarfon yn wreiddiol. Mae wedi’i hyfforddi fel animeiddiwr ac mae’n gweithio i wasg y Lolfa yn hyrwyddo llyfrau. Mae wrth ei fodd yn teithio o gwmpas ysgolion Cymru yn trafod llyfrau a chynnal gweithdai. Mae ei gartref yn Nhaliesin, Ceredigion.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyhoeddi’r 20fed Llyfr yng Nghyfres Alun yr Arth Mae Morgan Tomos, awdur llyfrau Alun yr Arth wedi cyhoeddi’r ugeinfed stori yn y gyfres yr wythnos hon. Mae Alun yr Arth a’r Wy Pasg yn anrheg ddelfrydol i’r rheiny sy’n chwilio am rywbeth gwahanol i gynnig i blant yn hytrach na siocled dros yr ŵyl eleni. Neu beth am fynd ar Helfa Wy Pasg fel Alun yr Arth? Bu Morgan Tomos yn ymweld â dwy ysgol ar Ddiwrnod y Llyfr yn arbennig i ddathlu llwyddiant cyfres Alun yr Arth. Gwahoddwyd yr awdur i dreulio’r bore yn Ysgol Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin a hynny gan fachgen o’r enw Morgan Cray, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 1. Yn ôl Morgan Cray, fe yw ‘ffan mwyaf Alun yr Arth’, ac roedd yn awyddus iawn i gyfarfod crëwr yr arth fach ddrygionus. Yn ogystal â chlywed Morgan Tomos yn darllen stori Alun yr Arth a’r Wy Pasg, bu’r disgyblion yn ddigon ffodus i gael cyfarfod Alun yr Arth ei hun! Yn ogystal, cyflwynodd yr awdur lun gwreiddiol o’r gyfres wedi’i fframio i Morgan Cray, fel diolch am y gwahoddiad. Yn y prynhawn, dychwelodd Morgan Tomos i Daliesin ble mae ei gartref, i ymweld â disgyblion Ysgol Llangynfelyn, oedd yn dathlu Diwrnod y Llyfr drwy ganolbwyntio ar un o straeon eraill y gyfres, sef Alun yr Arth yn y Castell.
Share
