Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth Ym Mhatagonia
Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth Ym Mhatagonia
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma'r 19eg llyfr yng Nghyfres Alun yr Arth. Mae Alun yn creu peiriant hedfan sy'n mynd ag o yr holl ffordd i Batagonia. Rydym yn cyfarfod ag anifeiliaid fel pengwiniaid a gwanacos, yn ogystal ag un deinosor arbennig.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The 19th book in the popular Alun yr Arth series, in which Alun creates a flying machine which takes him to Patagonia, where he meets wonderful animals such as penguins, guanacos and one special dinosaur.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847718099
- Gwales Code
- gwales.com.9781847718099
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth Ym Mhatagonia
- Awdur / Author
- Tomos, Morgan
- Current Price ex VAT
- £2.95
- Current Price inc VAT
- £2.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-10-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 24 pages
- Size
- 210 × 200 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Roedd dau fachgen sy’n byw ym Mhatagonia wedi cysylltu â’r awdur yn gofyn iddo greu llyfr am y wlad. Mae’r gyfrol yn cymharu Cymru â Phatagonia o ran tirwedd, iaith a bywyd gwyllt a hynny mewn ffordd syml. Ymweliad â Phatagonia yn Ysbrydoli Antur Newydd i Alun yr Arth Patagonia yw lleoliad antur ddiweddaraf Alun yr Arth, wrth i Alun yr Arth fynd ati i greu awyren i gario dŵr o Gymru i diroedd sych Patagonia. Mae’r gyfrol wedi ei chyflwyno i Mabon, Idris, Esyllt a Cristian - teulu o Batagonia, sy’n ddilynwyr mawr o’r gyfres. Ysbrydolwyd Morgan Tomos i ysgrifennu’r stori wedi i’w fam, Cadi Tomos, ymweld â’r Wladfa a chwrdd â’r teulu wrth gerdded ar y stryd nid nepell o’r Gaiman. Yn y llyfr Mabon ac Idris yw enwau’r ddau gwanco, ffrindiau Alun, a Cristian yw enw’r condor sy’n cario Alun am ran o’r daith i’r Wladfa, ac mae Esyllt yn ddeinasor blin. Dywedodd Morgan Tomos: “Bydd Alun yr Arth yn wastad wrth ei fodd yn gwneud ffrindiau newydd. Ac er iddo hel syniadau eithaf twp, eisiau helpu mae o a dweud helo mawr. Mae Patagonia ben arall y byd ond mae Alun yr Arth yn gweld mai tebyg yw pawb ac eto’n ddiddorol o wahanol.” Mae Cyfres Alun yr Arth wedi datblygu i fod yn un o hoff gyfresi plant Cymru. Erbyn hyn, o weld yr ymateb gwych a gafwyd i’r llyfr gan blant Ysgol Feithrin y Gaiman wedi i Esyllt Nest ddarllen y stori iddynt, mae’n ymddangos fod Alun yn dipyn o ffefryn ochr arall i’r byd hefyd. 24 tudalen, yn cynnwys lluniau lliw llawn a thestun gan Morgan Tomos, sydd wedi cael ei hyfforddi fel animeiddiwr.
Share
