Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Castell

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Castell

Regular price £2.95 GBP
Regular price Sale price £2.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Alun yr Arth yn ymweld â chastell gyda'i fam a'i dad. Ond yn lle cael gwers hanes ddiflas, mae'n darganfod rhywbeth cyffrous iawn. Dyma'r 14eg llyfr gan Morgan Tomos am Alun yr Arth ers 2001, sy'n brawf o'i boblogrwydd aruthrol. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2011.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Alun visits a castle with his mum and dad. But instead of a boring lesson on Welsh history, he makes an exciting discovery in the old walls of the castle. First Published in 2011.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847714060
Gwales Code
gwales.com.9781847714060
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Castell
Awdur / Author
Tomos, Morgan
Current Price ex VAT
£2.95
Current Price inc VAT
£2.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2016-05-10
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
24 pages
Size
210 × 200 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Alun yr Arth yn Cwrdd â’i Arwr Owain Glyndŵr Naws hanesyddol sydd yn y llyfr diweddaraf yng Nghyfres Alun yr Arth, pan mae Alun druan yn cael ei lusgo, o’i anfodd, i ymweld â chastell gyda’i fam a’i dad. Alun yr Arth yn y Castell yw’r 15fed llyfr yn y gyfres erbyn hyn, ac mae’r arth fach ddrygionus yn dal i fod mor boblogaidd ag erioed. Unwaith eto, mae Morgan Tomos, awdur ac artist y storïau, yn pwysleisio ac yn hybu Cymreictod y cymeriad. Ar ôl bod yn chwarae rygbi dros Gymru yn Alun yr Arth a’r Gêm Fawr a siarad Cymraeg gyda Phobol Bach Gwyrdd yn Alun yr Arth yn y Gofod , mae Alun yn cael cwrdd ag Owain Glyndŵr y tro hwn, a’i helpu i ymosod ar gestyll a’u gorchfygu. Rhaid i Alun ymladd yn erbyn ‘brenin a brenhines Lloegr’ ac mae’n dod o hyd i drysor mwyaf gwerthfawr Cymru. Ar ddiwedd yr antur mae’n dod i’r casgliad nad yw hanes yn ddiflas, wedi’r cyfan! Gyda thros 400 o gestyll, does ryfedd fod Cymru’n cael ei galw’n ‘wlad y cestyll’. Mae plant o bob cornel o’r wlad yn gyfarwydd â chestyll ac yn gallu cael mynediad hawdd i olion hanesyddol ac uniaethu â stori Alun yr Arth. Mae trysorau gwerth chweil ar gael ar ein stepen drws, fel gwnaeth Alun ddarganfod yn y llyfr diweddaraf yng Nghyfres Alun yr Arth. Yn ôl yr awdur: “Mae cestyll yn ddiddorol ond rhaid cofio pam y codwyd nhw yn y lle cyntaf. Dyna’r syniad tu ôl i’r stori hon.” Ychwanegodd Garmon Gruffudd o’r Lolfa: "Ychydig o lyfrau i blant sydd yn trafod cestyll yn Gymraeg ac o safbwynt Cymreig. Y gobaith yw y bydd sefydliadau fel Cadw yn fodlon gwerthu’r llyfr.”

View full details