Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Amdani: Blodwen Jones a'r Aderyn Prin
Cyfres Amdani: Blodwen Jones a'r Aderyn Prin
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Addasiad lefel Sylfaen o ddilyniant i ddyddiadur doniol Blodwen Jones, llyfrgellydd a pherchennog gafr sy'n parhau i chwilio am gariad. Mae'r fersiwn hwn wedi'i addasu i gydymffurfio â lefelau Dysgu Cymraeg a llyfrau Cyfres Amdani.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Level Sylfaen adaption of the sequel to Blodwen Jones's humorous diary. Blodwen is still looking for love, and still has a pet goat! This edition has been adapted to match the Amdani series for Welsh learners.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785623141
- Gwales Code
- gwales.com.9781785623141
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Amdani: Blodwen Jones a'r Aderyn Prin
- Awdur / Author
- Gwanas, Bethan
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2022-03-08
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 100 pages
- Size
- 148 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
English review follows Dyma ail nofel Bethan Gwanas yn olrhain hanes Blodwen Jones yn y gyfres Amdani, sef cyfres o lyfrau i ddysgwyr, ac mae’r nofel hon mor ddoniol â’r gyntaf. Mae Blodwen Jones a’r aderyn prin yn cario ymlaen gyda hanes Blodwen, merch sy’n gweithio mewn llyfrgell, wrth iddi ddysgu Cymraeg a chwilio am y dyn perffaith. Nid yw bywyd Blodwen yn hawdd. Mae gafr ’da hi sy’n hoffi bwyta popeth yn ei gardd hi a gerddi cymdogion, ac mae’r afr yn hoffi dianc bob dydd. Mae cath ’da hi sy’n cael infestation o chwain ac mae ’da hi gydweithwraig sy ddim yn ei hoffi hi. Ac mae hi’n trio dysgu Cymraeg hefyd. Fel arfer, dw i ddim yn lico chick-lit fel Bridget Jones , ond, rhywsut, mae gwin a gwaith, adar a dynion yn fwy doniol trwy’r Gymraeg. Ond, tipyn bach o stereotype yw Blodwen: 30-rhywbeth oed, yn sengl, yn hoffi bwyta cacennau ac yn yfed gormod o win . . . ydy hi’n meddwl am bethau difrifol o gwbl? Nid nod pob merch yw edrych am ddyn perffaith. Ond ie, dw i’n gwybod, os dych chi’n dysgu Cymraeg, rhaid i chi gael tipyn bach o hwyl rhywle, rhywsut. Achos dw i’n ddysgwraig hefyd, dw i’n gallu cydymdeimlo gyda Blodwen trwy’r amserau anodd gyda’r iaith Gymraeg. Dw i’n gallu chwerthin gyda hi hefyd, a dyna pam mae’r llyfr hwn yn dda. Pan dych chi’n gallu darllen, deall a chwerthin trwy ail iaith, chi’n teimlo bod chi’n wedi cyrraedd. Mae’r gyfres hon yn syniad da achos, fel dysgwraig, dw i’n moyn darllen trwy gyfrwng Cymraeg, ond mae nofelau go-iawn Cymraeg yn rhy anodd – a Smot ayyb yn rhy syml. Dyma rywbeth yn y canol, gyda themâu oedolion ond mewn iaith addas i ddysgwyr. Mae’n eithaf byr, nid yw fel darllen nofel gyffredin, ond mae sense of achievement pan dych chi wedi gorffen llyfr go-iawn yn y Gymraeg. Mae’r pris yn grêt hefyd – dim ond £3.50. Mae’n help mawr i gael geirfa ar waelod bob tudalen, ond weithiau maen nhw ailadrodd yr un gair rhai tudalennau yn nes ymlaen. Dw i’n meddwl bod y llyfr hwn yn addas i ddysgwyr sydd wedi astudio am tua dwy flynedd neu fwy. Hefyd, mae’n well os chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng ‘dach’ a ‘dych’ a phethau gwahanol eraill rhwng iaith y Gogledd a’r De. Ond nid yw’n broblem fawr, yn enwedig achos fod nodiadau yn y cefn i helpu esbonio pethau. Chi’n dysgu tipyn bach am Gymru hefyd, fel enw go-iawn ‘Bardsey Island’ yw Ynys Enlli, ac mae llawer o adar prin arni hi. A, falle, mae Mr Perffaith arni hi hefyd? Pwy sy’n gwybod? Alyson Tyler * * * This is Bethan Gwanas’s second novel about the exploits of Welsh learner Blodwen Jones, in the Amdani series, written for Welsh learners, and this one again is most entertaining. Blodwen Jones a’r Aderyn prin continues the story of Blodwen, a libarian who is learning Welsh and looking for the perfect man. Blodwen’s life isn’t easy. She has a goat that escapes every day and eats everything in the neighbouring gardens. She also has a cat that is infested by fleas – and a colleague who cannot stand her. And she’s also trying to learn Welsh! I don’t usually enjoy chick-lit such as Bridget Jones , but somehow wine and work, birds and men, are funnier in Welsh. Blodwen is quite a stereotype: 30 something, single, likes eating cakes and drinking too much wine … does she have any serious thoughts at all? All girls do not spend all their time seeking the perfect man. But, ok, I know, you must have some fun while trying to learn Welsh! I’m also a Welsh learner, and I can sympathise with Blodwen and her difficult experiences with the Welsh language. I can laugh with her, and that’s why this is such a good read. When you can read, understand and laugh through the medium of your second language, you feel that you have really achieved something. This is a great series, because, as a Welsh learner, I want to read Welsh, but ‘real’ Welsh novels are too difficult, and Smot , etc, too simple. Here we have something in-between, with adult themes but Welsh learners’ language. It’s quite a short novel, but there is a sense of achievement when you have completed a real book in Welsh. The price is also great – only £3.50. It’s very helpful to have a vocabulary at the bottom of each page, but they sometimes repeat the same word more that once. I think this book is suitable for those who have been learning Welsh for a couple of years. It’s also better if you know the difference between ‘dach’ and ‘dych’ and between the North and South Walian dialects. But this is not a great problem, because the notes in the back of the book explain these things. You also learn about Wales, such as the proper name for Bardsey Island – Ynys Enlli – and that many rare species of birds live there. And who knows, Mr Right himself might also be living there?!
Share
