Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Amdani: Chwedlau Cymru - Ceffylau

Cyfres Amdani: Chwedlau Cymru - Ceffylau

Regular price £4.99 GBP
Regular price Sale price £4.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma chwe chwedl neu stori o Gymru. Chwedlau am geffylau. Chwedlau am bobl enwog yn hanes Cymru – fel y Brenin Arthur. Mae'r chwedlau'n dod o sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Castell-nedd, Port Talbot a Dyfed. Rwyt ti'n gallu darllen chwedl am dy ardal di. Mae'n bwysig gwybod am dy ardal. Mae'n bwysig gwybod am chwedlau dy ardal. Addas ar gyfer Dysgwyr Cymraeg. Cyfres 'Amdani', Lefel Mynediad.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of six legends or tales about horses from various locations all over Wales: Flintshire, Carmarthenshire, Gwynedd, Neath, Port Talbot and Dyfed. Suitable for Welsh Learners. 'Amdani' Series, Entry Level.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845277918
Gwales Code
gwales.com.9781845277918
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Amdani: Chwedlau Cymru - Ceffylau
Awdur / Author
Collins, Fiona
Current Price ex VAT
£4.99
Current Price inc VAT
£4.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-04-23
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Editor
Parry, Nia
Darlunydd / Illustrator
Griffiths, Natalie
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
50 pages
Size
148 × 210 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Fiona Collins yn byw ger Corwen, yn Sir Ddinbych. Mae hi wedi dysgu Cymraeg. Mae hi'n hoffi chwedlau neu storïau o Gymru yn fawr iawn. Ers y 1990au, mae hi'n gweithio fel chwedleuwr. Mae hi'n dweud hen straeon wrth bobl. Mae hi hefyd yn mwynhau cerdded, darllen a nofio. Dyma ei llyfr Cymraeg cyntaf.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma gyfrol o chwe chwedl Cymreig yn ymwneud â cheffylau a marchogion Cymru. Addaswyd y straeon gan y storiwraig Fiona Collins, sydd hefyd yn ddysgwraig ac yn enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019. Galan Mai mynychodd Fiona gwrs undydd Zoom i awduron cyfres Amdani gyda'r bwriad o gyfansoddi cyfrol lefel Mynediad ac aeth ati i gynhyrchu'r testun wedi hyn. Cafodd Fiona ei mentora gan Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac Eirian Conlon, tiwtor hynod brofiadol sydd hefyd yn darparu deunyddiau addysgiadol i'r Ganolfan. Rydym hefyd wedi penodi Nia Parry fel golygydd sydd eisoes â phrofiad o olygu sawl llyfr ar draws y lefelau o Mynediad hyd at Canolradd i gydweithio â Fiona a Natalie a rheoli'r prosiect. Mae hi eisoes wedi bod yn trafod amserlen fanwl gyda Natalie a Fiona ac wedi cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen. Dywedir o hyd fod dysgu Cymraeg yn allwedd i fyd newydd ac i'n hanes a'n diwylliant a'n treftadaeth hi. I nifer, nid gwersi iaith ydyn nhw yn unig. Mae gan nifer fawr o ddysgwyr ddiddordeb brwd mewn dysgu am hanes a chwedloniaeth Cymru yn ogystal â defnyddio'r iaith i gyfathrebu o ddydd i ddydd. Noder nad oes fersiynau Saesneg llawn o rai o'r chwedlau sy'n cael eu cynnwys yn y llyfr hwn yn bodoli hyd yn oed. Canolbwyntiwyd ar chwedlau meirch, gan roi undod i'r casgliad a hefyd sicrhau bod yr un geiriau newydd yn ailymddangos mewn mwy nag un o'r chwedlau.

View full details